MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £51,942 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 18 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Mathemateg - Ysgol Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £51,942 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL Y MOELWYN, BLAENAU FFESTINIOG

(Cyfun 11 - 16; 361 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer 1 Medi, 2026

ATHRO/ATHRAWES MATHEMATEG

(Llawn Amser - Parhaol)

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33.731 - £51,942) yn ôl profiad a chymhwyster

Mae'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Eleri Moss rhif ffôn 01766 830435, e-bost:-

pennaeth@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Mena Price, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3DW Rhif ffôn - 01766 830435

e-bost: sg@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 12:00Y.H, DYDD MERCHER 18 O CHWEFROR, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

-

Swydd Ddisgrifiad

-

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi