MANYLION.
  • Lleoliad: Llandrindod Wells,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Lleoliad Cyn Ysgol (Ysgol Trefonnen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr

Arweinydd Lleoliad Cyn Ysgol (Ysgol Trefonnen)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol ysbrydoledig, gofalgar a chreadigol sydd yn gwneud dysgu'n hwyl i bawb.

Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol ddwy ffrwd ar gyfer plant 4-11 oed, a reolir yn wirfoddol gyda ffocws ar y gymuned; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg a rhai trwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae ein holl ddisgyblion yn rhannu'r profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, dau grŵp Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol (cyfrwng Cymraeg a Saesneg), dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Clwb Gwyliau Haf Bwyd a Hwyl buddiol ac Oergell Gymunedol hynod lwyddiannus.

ARWEINYDD BLYNYDDOEDD CYNNAR Saesneg (parhaol)

12.5 awr yr wythnos - 23ain Chwefror 2026 ymlaen

Ar hyn o bryd mae gennym gyfle i Arweinydd Blynyddoedd Cynnar ymuno â'n tîm dibynadwy, gweithgar ac effeithlon.

Rydym yn chwilio am Arweinydd sydd:
  • wedi cyflawni cymhwyster lefel 3 sy'n cael ei gydnabod ar restr gyfredol Cyngor Gofal Cymru o Gymwysterau a Dderbynnir ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, neu sy'n fodlon gweithio tuag at y cymhwyster hwn.
  • gyda dealltwriaeth gadarn o egwyddorion ac arferion y Blynyddoedd Cynnar
  • ac a fydd yn:
  • gyfrifol am redeg y lleoliad o ddydd i ddydd yn cynnwys goruchwylio a chefnogi staff
  • sicrhau cynllunio, cyflwyno ac adolygu profiadau a gweithgareddau seiliedig ar chwarae o ansawdd uchel
  • gyfrifol am bolisïau, hunanwerthuso, asesiadau plant a chadw cofnodion y lleoliad
  • cynnal amgylchedd dysgu croesawgar, diogel a threfnus
  • fodel rôl iaith da
  • cefnogi plant yn gyson wrth gydnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.
Y patrwm gwaith ar gyfer y rolau hyn yw:

12.5 awr - Llun i Iau, 1 - 3.30 ar hyn o bryd, ond mae'n debygol o newid i oriau bore ynghyd ag 1.5 awr o amser gweinyddol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch âr ysgol ar 01597 822190 neu office@trefonnen.powys.sch.uk

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon.