MANYLION.
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 24,413 *
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 - Ysgol Gynradd Penrhyncoch

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 24,413 *

Ynglŷn â'r rôl
Ydych chi'n angerddol am gefnogi disgyblion i ffynnu mewn amgylchedd cynhwysol a gofalgar? Ydych chi'n awyddus i helpu plant i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac i ddatblygu ymddygiad cadarnhaol?

Mae Ysgol Penrhyn-coch yn recriwtio Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 1 Ymddygiad/Arweiniad/Cefnogaeth) i ymuno â'r tîm. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau disgyblion sydd angen cefnogaeth ychwanegol.

Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1, byddwch yn:
  • Cefnogi disgyblion ag anghenion ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad at ddysgu.
  • Gofalu am anghenion personol disgyblion, gan gynnwys materion cymdeithasol, iechyd, hylendid a lles.
  • Helpu i weithredu ac adolygu Cynlluniau Addysg ac Ymddygiad Unigol, a rhaglenni Gofal Personol.
  • Hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth ac ymddygiad cadarnhaol ar draws yr ysgol.
  • Cynorthwyo gyda threfniadaeth ystafell ddosbarth, paratoi adnoddau, a gweithgareddau ysgol megis teithiau ac achlysuron y tu allan i'r dosbarth.
  • Gweithio'n agos gyda'r athrawon i gefnogi dysgu a rheoli ymddygiad disgyblion yn effeithiol.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
  • Wedi gweithio gyda neu ofalu am blant o oedran perthnasol.
  • Yn meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd da, ac yn barod i gwblhau Rhaglen Ymsefydlu Cynorthwyydd Addysgu.
  • Yn gallu defnyddio TG sylfaenol i gefnogi dysgu a gweithgareddau'r dosbarth.
  • Yn hyblyg, cadarnhaol, ac yn gallu meithrin perthnasoedd cryf gyda disgyblion, staff a theuluoedd.
  • Yn deall pwysigrwydd diogelu, cynhwysiant a gwaith tîm.
  • Yn meddu ar wybodaeth briodol o gymorth cyntaf ac yn gyfforddus yn cefnogi anghenion personol disgyblion.

Pam Ymuno â Ni?

Ymunwch â chymuned ysgol gefnogol ac ymroddedig, lle mae eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi ac mae eich datblygiad proffesiynol yn cael ei annog. Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a thwf proffesiynol, gan eich helpu i adeiladu gyrfa werthfawr ym maes addysg tra'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i les a datblygiad disgyblion.

Os ydych chi'n frwdfrydig am helpu plant i lwyddo ac eisiau chwarae rhan allweddol yn eu taith addysgol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Darganfyddwch fwy am Ysgol Penrhyn-coch yma: FFederaliaeth Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn - Home

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catryn Lawrence ar prif@penrhyncoch.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy