MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Newtown,
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: DIRPRWY BENNAETH Salary Range 6-10
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: DIRPRWY BENNAETH Salary Range 6-10
Dirprwy Bennaeth (Penygloddfa C P School)Swydd-ddisgrifiad
DIRPRWY BENNAETH ystod cyflog 6-10
Angen ar gyfer Mis Medi 2026 (dechrau tymor yr Hydref 2026), yn amodol ar gwblhau archwiliadau cyn cyflogaeth ac archwiliadau diogelu.
Mae Sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Dymuna'r corff llywodraethu benodi gweithiwr proffesiynol ysgogol, profiadol a brwdfrydig, sy'n arwain wrth esiampl, i weithio ochr yn ochr â'r Pennaeth drwy gymryd rôl arweiniol wrth reoli a datblygu ein hysgol.
Mae hon yn ysgol boblogaidd a llwyddiannus yn nhref hardd Y Drenewydd yng nghanolbarth Powys.
Gallwn gynnig y canlynol i chi:
• Disgyblion arbennig! Mae ein disgyblion, sydd ag ymddygiad gwych, sy'n gyfeillgar ac yn hynod greadigol, yn gallu 'meddwl y tu allan i'r bocs' ac maent wrth eu bodd yn cydweithio fel tîm.
• Amgylchedd dysgu ysbrydoledig sy'n galluogi.
• Tîm cyfeillgar, gofalgar a chefnogol o staff a Chorff Llywodraethu.
• Rhaglen gref o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
• Y cyfle i dyfu a datblygu eich sgiliau arwain fel rhan o uwch dîm arweinyddiaeth creadigol, uchelgeisiol a myfyriol.
• Partneriaethau cryf gyda rhanddeiliaid
• Amser di-gyswllt rheolaidd.
Rhaid i'n Dirprwy Bennaeth newydd rannu ein hymrwymiad i ddisgwyliadau uchel a chynorthwyo'r pennaeth i arwain ein tîm deinamig er mwyn gyrru ein hysgol yn ei blaen.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• Dangos a hyrwyddo gwerthoedd ac anian y Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth yng Nghymru.
• Bod yn ymarferydd dosbarth rhagorol gyda disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad ac yn frwd dros sicrhau bod pob plentyn yn llwyddiannus.
• Bod yn arweinydd arloesol, sy'n gallu ymgysylltu â diwygiadau'r cwricwlwm i gynllunio cwricwlwm sy'n diwallu anghenion pob dysgwr, yn cynnwys y rhai sydd ag ADY.
• Meddu ar hanes profedig o arwain mentrau i godi cyrhaeddiad.
• Hyrwyddo lles a diogelwch pob plentyn yn weithredol.
• Dangos ymrwymiad personol tuag at ddysgwyr gydol oes a datblygiad proffesiynol.
• Cydweithio gyda thîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach, Gwahoddwn bob darpar ymgeisydd yn wresog i ffonio'r ysgol i drefnu apwyntiad er mwyn edrych o amgylch ein hysgol wych. Cysylltwch âr Pennaeth, Mrs Jayne Harrison, ar 01686 626715 neu drwy ebost head@penygloddfa.powys.sch.uk
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus angen datgeliad manylach Cyngor Sir Powys gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a bydd angen dau eirda cyn y gall ymgymryd âr swydd. Dyddiad cau: 23ain
Ionawr 2026. Dyddiad llunio rhestr fer: 27ain Ionawr 2026. Dyddiadau cyfweld: 5ed a 6ed Chwefror 2026.