MANYLION.
  • Lleoliad: Kerry,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: ISR - Leadership Scale Point 1-5
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth / Cydlynydd ADY (Ysgol Sant Mihangel)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: ISR - Leadership Scale Point 1-5

Dirprwy Bennaeth / Cydlynydd ADY (Ysgol Sant Mihangel)
Swydd-ddisgrifiad

'Yr hyn a roddir i'r gwreiddiau, ddaw allan yn y canghennau'

Pennaeth Mr D.Jarman


Dyddiad dechrau: 1 Medi 2026


Rydym yn chwilio am ymgeisydd llwyddiannus sydd:
  • yn ymarferydd rhagorol sydd â gwybodaeth dda am y Cwricwlwm i Gymru
  • yn gallu addysgu ar draws sawl grŵp blwyddyn
  • â disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad.
  • yn angerddol dros gefnogi lles disgyblion ac yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth i'r plentyn 'cyfan'.
  • yn chwaraewr tîm ymroddedig a hyblyg sy'n ceisio ac yn rhannu syniadau.
  • yn barod i ddangos ymrwymiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau allgyrsiol.
  • meddu ar y sgiliau (neu'r gallu i ddysgu sut) i gefnogi'r ysgol i hybu'r Gymraeg.
  • yn agored i ddulliau newydd sy'n cefnogi addysgeg.

Yn gyfnewid am hyn, gall yr ysgol gynnig y canlynol i chi:
  • disgyblion cyfeillgar, parchus a brwdfrydig
  • tîm gweithgar, cydwybodol ac ymroddedig o staff
  • amgylchedd dysgu gofalgar a bywiog llawn adnoddau da
  • cysylltiadau cryf â'r gymuned leol
Mae croeso cynnes i chi ymweld âr ysgol ac fe'ch anogir yn gryf i wneud hynny. Cysylltwch â swyddfa'r ysgol ar: 01686 670 208 neu e-bostiwch office@st-michaels.powys.sch.uk am fwy o fanylion neu i drefnu ymweliad.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manwl gan y
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd