MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llandrindod Wells,
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Soulbury 25-27 + 3SPA £73,770 - £76,263 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Soulbury 25-27 + 3SPA £73,770 - £76,263 y flwyddyn
Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwella YsgolionSwydd-ddisgrifiad
Gall y swydd hon fod yn gyfle am secondiad o 12 mis i ymgeiswyr mewnol. Dylai ymgeiswyr gael caniatâd eu rheolwr llinell cyn gwneud cais am secondiad
Am y rôl:
Bydd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwella Ysgolion yn arwain a rheoli Gwasanaethau Gwella Ysgolion yn unol â meini prawf polisi a pherfformiad cymeradwy. Mae'r rôl yn cynnwys dyrannu adnoddau o fewn y Maes Gwasanaeth, atebolrwydd i'r Cyngor drwy'r Tîm Arwain Addysg, a dirprwyo ar ran y Pennaeth Gwasanaeth pan fo angen. Bydd deilydd y swydd yn sicrhau bod y Gwasanaeth Addysg yn ymgysylltu'n effeithiol â gwasanaethau eraill i ddarparu'r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc ym Mhowys. Byddant hefyd yn cyfrannu at faterion strategol a chorfforaethol, yn cyflawni gwelliannau i wasanaethau, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau deddfwriaethol ac ansawdd.
Bydd deilydd y swydd yn aelod o'm Arwain Addysg.
Amdanoch chi:
Byddwch yn arweinydd profiadol gyda dealltwriaeth gref o welliant ysgolion, polisi addysg a chynllunio strategol. Dylech fod â'r gallu i reoli adnoddau'n effeithiol, arwain timau, a chydweithio ar draws adrannau ac asiantaethau. Mae ymrwymiad i wella safonau a chanlyniadau i ddysgwyr ym Mhowys yn hanfodol, ochr yn ochr â sgiliau cyfathrebu a dadansoddi rhagorol.
Yr hyn y byddwch yn ei wneud:
- Darparu arweinyddiaeth a rheolaeth strategol ar gyfer y Gwasanaeth Gwella Ysgolion.
- Goruchwylio bod ysgolion yn cydweddu âr agenda Dysgu a Sgiliau ehangach.
- Rheoli cyllidebau a rheoli staff llinell o fewn y gwasanaeth, gan gynnwys Ymgynghorwyr Gwella Ysgolion, y Tîm Blynyddoedd Cynnar, a Swyddogion y Gymraeg.
- Hyrwyddo gwella ysgolion i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd ac ymgorffori'r pedwar diben.
- Adeiladu capasiti o fewn ysgolion i fanteisio i'r eithaf ar botensial dysgu a gwella safonau.
- Darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer addysg Blynyddoedd Cynnar a gweithredu fel swyddog arweiniol ar gyfer TG mewn ysgolion.
- Sicrhau bod arweinyddiaeth o ansawdd uchel yn cael ei datblygu o fewn ysgolion a chefnogi recriwtio arweinwyr ysgol.
- Dehongli a chyflwyno polisïau rhanbarthol a chenedlaethol yn lleol er budd dysgwyr.
- Datblygu a gweithredu strategaethau ar gyfer gwelliant parhaus yn unol â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
- Darparu cyngor cywir ac amserol i ysgolion, uwch reolwyr, aelodau etholedig, partneriaid, a Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Dr Richard Jones, Cyfarwyddwr Addysg neu Sally Llewellyn, Pennaeth Gwella Ysgolion a Dysgu - recruitment@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manylach, mae'r swydd hon yn cael ei hystyried yn weithgaredd rheoledig o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012 a bydd yn amodol ar wiriad i'r rhestr o'r bobl hynny sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 19/01/2026 - 12 noon