MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanfair Caereinion,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Prif raddfa cyflog: £33,731 - £51,942
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Prif raddfa cyflog: £33,731 - £51,942
Athro / Athrawes Cymraeg (Ysgol Bro Caereinion)Swydd-ddisgrifiad
Annwyl Ymgeisydd
Mae Ysgol Bro Caereinion yn awyddus i benodi athro / athrawes ymroddedig i ymuno â'r ysgol pob oed ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn ysgol Gymraeg flaenllaw ym Maldwyn, yng
ngogledd Powys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig o staff sydd yn ymroi'n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad disgyblion o fewn ysgol arbennig sydd
ag ethos deuluol gref. Lleolir yr ysgol hon yn nhref marchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru, wyth milltir o'r Trallwng ac o fewn awr o daith o Aberystwyth.
Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion 'yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau'r ysgol. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu'. I ddarllen
yr adroddiad yn llawn cliciwch ar y ddolen hon: Adroddiad arolygiad Ysgol Bro Caereinion 2024
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn ymroddedig sydd:
• yn athro medrus ac effeithiol, gyda phrofiad cadarn o addysgu
• yn meddu ar ddealltwriaeth glir o'r Cwricwlwm i Gymru
• yn gosod disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad
• yn gallu cydweithio'n effeithiol fel rhan o dîm
• yn modelu'r iaith Gymraeg yn effeithiol a chywir
Mae Ysgol Bro Caereinion yn ysgol ddwyieithog ac mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hynod hanfodol ar gyfer y swydd hon (Lefel C - Defnyddiwr hyfedr ar y Fframwaith Cyfeirio
Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)). Gweler y disgrifiad swydd a'r fanyleb person isod. Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda'r ysgol os dymunwch sgwrs gyda'r pennaeth neu i ddod i ymweld âr ysgol. Dymunwn bob hwyl i chi gyda'ch cais