MANYLION
  • Lleoliad: Mid Powys,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Clerc / Gweinyddwr - Lefel 3 (Generig) (Ysgol Calon Cymru)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr

Clerc / Gweinyddwr - Lefel 3 (Generig) (Ysgol Calon Cymru)
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Ysgol Calon Cymru
37 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn
Cyfnod penodol tan 17.07.2026
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol hynod drefnus a brwdfrydig i ymuno
â'n cymuned ysgol fywiog. Fel y pwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr,
byddwch yn chwarae rhan allweddol i greu amgylchedd croesawgar ac effeithlon. Mae
hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol sy'n
ffynnu mewn lleoliad deinamig.
Prif Gyfrifoldebau
• Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol, gan gynnwys cofnodi data, ffeilio a chadw
cofnodion.
• Cynorthwyo i drefnu cyfarfodydd, digwyddiadau ac amserlenni staff.
• Ymdrin ag ymholiadau'n broffesiynol ac yn gynnes dros y ffôn, ar e-bost ac yn bersonol.
• Cynnal a diweddaru cronfeydd data a chynorthwyo wrth baratoi adroddiadau.
• Cydweithio ag aelodau eraill o'r tîm gweinyddol i sicrhau gweithrediadau di-drafferth o
ddydd i ddydd.
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol ar gyfer disgyblion rhwng 11-18 oed. Mae'r ysgol yn
gwasanaethu dalgylch wledig eang, wedi'i lleoli ar ddau gampws, gyda chweched dosbarth
brwd. Mae Ysgol Calon Cymru yn elwa o dîm gweithgar, cymwys ac ymroddedig o athrawon a
staff cyswllt. Mae'r ysgol yn meithrin ethos cryf o barch at ei gilydd, ysbryd tîm a chydweithio
er budd gorau'r disgyblion. Mae ein disgyblion yn ymddwyn yn dda, yn groesawgar ac yn falch
o'u hysgol. Maent yn gweithio ochr yn ochr â staff i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o fod y
gorau y gallwn fod. Bydd eich ychwanegu at y gymuned ddysgu yn ein helpu i gyflawni'r
weledigaeth hon. Mae gwefan ein hysgol (https://www.ysgolcalon.cymru/ ) yn darparu ystod
o wybodaeth am yr ysgol.
Arolygwyd yr ysgol ym mis Hydref 2022 ac fe'i disgrifiwyd gan Estyn fel a ganlyn: 'Mae Ysgol
Calon Cymru yn darparu amgylchedd dysgu digynnwrf, gofalgar a chyfoethog lle mae llawer o
ddisgyblion yn datblygu fel unigolion hapus, hyderus a pharchus. Mae llawer o ddisgyblion yn
ymddwyn yn barchus tuag at ei gilydd, yn datblygu perthynas gadarnhaol gyda staff yr ysgol ac
yn gyfeillgar gydag ymwelwyr.'
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol ddwyieithog ac mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar
gyfer y swydd hon.
Os ydych yn frwd dros gefnogi myfyrwyr a staff mewn amgylchedd ysgol brysur, ac rydych yn
chwilio am rôl lle bydd eich cyfraniadau'n gwneud gwahaniaeth go iawn, hoffwn eich annog i
wneud cais.