MANYLION
  • Lleoliad: Mid Powys,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Calon Cymru)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Calon Cymru)
Swydd-ddisgrifiad
Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 07/12/2025

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Cynorthwy-ydd Addysgu sy'n Siarad Cymraeg
Ysgol Calon Cymru
19.5 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn
Cyfnod penodol tan 17.07.2026
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu Cymraeg medrus, llawn cymhelliant a brwdfrydig sydd am wneud gwahaniaeth i brofiadau addysg a dysgu ein myfyrwyr.
Hoffem glywed gennych
• Os oes gennych y gallu i weithio gydag ystod o blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol a chymhleth
• Rydych yn chwaraewr tîm a all adeiladu perthnasoedd gwaith da gyda chydweithwyr
• Rydych yn hyblyg, yn frwdfrydig ac yn gadarn, gyda synnwyr digrifwch
• Rydych chi'n ymroddedig i ddatblygiad personol parhaus
• Yn meddu ar ddyheadau uchel o ran addysgu a dysgu i bob plentyn a pherson ifanc
•n ymroddedig i ddiogelwch a lles pob disgybl
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol 11-18 oed sy'n gwasanaethu dalgylch wledig eang, wedi'i lleoli ar ddau gampws, gyda chweched dosbarth brwd. Mae Ysgol Calon Cymru yn elwa o dîm gweithgar, cymwys ac ymroddedig o athrawon a staff cyswllt. Mae'r ysgol yn meithrin ethos cryf o barch, ysbryd tîm a chydweithio er budd gorau disgyblion Mae ein disgyblion yn
ymddwyn yn dda, yn groesawgar ac yn falch o'u hysgol. Maent yn gweithio ochr yn ochr â staff i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o fod y gorau y gallwn fod. Bydd eich ychwanegu at y gymuned ddysgu yn ein helpu i gyflawni'r weledigaeth hon. Mae gwefan ein hysgol
(https://www.ysgolcalon.cymru/ ) yn darparu ystod o wybodaeth am yr ysgol. Arolygwyd yr ysgol ym mis Hydref 2022 ac fe'i disgrifiwyd gan Estyn fel a ganlyn: 'Mae Ysgol Calon Cymru yn darparu amgylchedd dysgu digynnwrf, gofalgar a chyfoethog lle mae llawer o ddisgyblion yn datblygu fel unigolion hapus, hyderus a pharchus. Mae llawer o ddisgyblion yn
ymddwyn yn barchus tuag at ei gilydd, yn datblygu perthynas gadarnhaol gyda staff yr ysgol ac yn gyfeillgar gydag ymwelwyr.'
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol ddwyieithog ac mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Ychydig am ein hardal leol
Mae Canolbarth Powys yn drysor cudd sy'n cynnig y cyfuniad perffaith o ddiogelwch, swyn a harddwch naturiol. Dychmygwch byw mewn lle sydd â chyfraddau troseddu isel, tai fforddiadwy, tirweddau trawiadol, a chymunedau cynnes a chroesawgar. Mae'r cyfan gan y Canolbarth!
Yma, mae sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn rhwydd, diolch i'r amrywiaeth anhygoel o weithgareddau sydd ar gael i bob oed. P'un a ydych chi'n frwd dros golff, pysgota, cerdded, seiclo, neu feicio mynydd, neu'n mwynhau diwylliant drwy theatrau, sinemâu, neu ddigwyddiadau enwog fel Gŵyl Y Gelli, y Dyn Gwyrdd, a Sioe Frenhinol Cymru, mae rhywbeth i bawb ar stepen eich drws.
Dyddiad Cau: Cyfweliadau
Dyddiad Dechrau 26 Tachwedd 2025
I'w gadarnhau Ionawr 2026