MANYLION
  • Lleoliad: Llangors,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,796 i £25,185 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.85 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Eglwys yng Nghymru Llangors)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,796 i £25,185 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.85 i £13.05 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Eglwys yng Nghymru Llangors)
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwyydd Addysgu - Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Llangors
27.5 awr yr wythnos
Ei angen/Ei hangen ar gyfer 1 Ionawr 2026
Cyfnod Cyflenwi ar gyfer Mamolaeth
Rydym am benodi Cynorthwyydd Addysgu brwdfrydig, llawn cymhelliant, sy'n frwd dros
gefnogi dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant ag ystod o anghenion, ac sydd â'r
wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd i wneud hynny.
Byddwch yn gweithio o dan arweiniad ein staff addysgu i weithredu a goruchwylio
gweithgareddau dysgu cytunedig gydag unigolion a grwpiau a bach o ddisgyblion, yn yr ystafell
ddosbarth neu'r tu allan iddi. Gall hyn gynnwys cynorthwyo i gynllunio, paratoi a chyflwyno'r
gweithgareddau dysgu, yn ogystal â monitro disgyblion, asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniad,
cynnydd a datblygiad, o dan gyfarwyddyd yr athro/athrawes dosbarth.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio ar y cyd ac yn hyblyg a meithrin
perthnasoedd da gyda staff a rhieni allweddol, gan ddangos agwedd barchus a gofalgar
tuag at bawb yn yr ysgol.
Mae croeso i chi gysylltu âr ysgol am ymweliad neu fanylion pellach os oes angen.
office@llangorse.powys.sch.uk neu 01874 658663.