MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llandudno,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: URG\/PRG
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: URG\/PRG
YSGOL JOHN BRIGHT01492 864200 | general @johnbright.uk | www.johnbright.uk
ATHRO HANES DROS DRO
Swydd dros dro, dros absenoldeb mamolaeth
Mae'r ysgol yn awyddus i benodi athro dosbarth ysbrydoledig sy'n gallu ennyn diddordeb myfyrwyr gyda'u hangerdd am hanes. Rydym yn chwilio am rywun sy'n frwd dros gefnogi pobl ifanc i ddatblygu cariad at y pwnc. Mae Ysgol John Bright yn ysgol gynhwysol, ofalgar, mae gan y myfyrwyr agwedd gadarnhaol at ddysgu ac rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i herio, cefnogi a datblygu staff a myfyrwyr.
Bydd gennych ddisgwyliadau uchel, y gallu i ysbrydoli, chwerthin a mwynhau heriau'r rôl. Bydd gennych wybodaeth ragorol am y pwnc ac awydd i weld pob myfyriwr yn ffynnu ac yn datblygu yn eich gwersi. Croesewir ceisiadau gan athrawon sydd newydd gymhwyso.
Y dyddiad cau a'r terfyn amser ar gyfer ceisiadau yw canol nos, Dydd Mawrth 25 Tchwedd
Cyfweliadau w/c 1 Rhagfyr
Yn decrhrau 9 Chwefror 2026
BYDDWCH CHI'N :
- Credu'n angerddol ym mhotensial pob myfyriwr, ac yn ymroi'ch hun i sicrhau bod pob myfyriwr yn llwyddo
- Athro â chymwysterau da ac uchel eu cymhelliant sy'n gallu cyflwyno gwersi difyr a sicrhau canlyniadau cryf
- Gallu gweithio gyda chydweithwyr i gael effaith ar gynnydd myfyrwyr a datblygu cwricwlwm cyfoethog
- Greadigol gydag ymagwedd ddychmygus at addysgu a dysgu
- Rhywun sydd â disgwyliadau uchel, gyda'r gallu i herio'ch myfyrwyr a meddwl yn feirniadol am eich ymarfer eich hun
- Ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus sy'n arwain at wybodaeth bynciol ac addysgu rhagorol.
RYDYM YN CYNNIG :
- Cyfleoedd rhagorol i ddatblygu'ch gyrfa a mynediad i raglen gynhwysfawr o ddysgu a datblygiad proffesiynol
- Y cyfle i fod yn feiddgar ac arloesol yn eich arweinyddiaeth
- Ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer myfyrwyr a staff
- Amgylchedd gwaith sy'n broffesiynol ysgogol a chefnogol
- Ymrwymiad cryf i ddatblygiad a dilyniant proffesiynol ar gyfer yr holl staff
- Cyfleusterau o'r radd flaenaf mewn adeilad ac ar safle deniadol a modern
- Dull arweinyddiaeth sy'n blaenoriaethu lles a llwyth gwaith staff
- Ethos 'ffenestr ar y byd' sy'n cyfoethogi profiadau dysgu myfyrwyr
y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus . Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol .
This form is also available in English