MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSGYSGOL FRIARS, BANGOR(Cyfun 11 - 18: 1421 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer : Cyn gynted a phosib.
Cynorthwy-ydd Cymorth Gweinyddol Cyffredinol a Chwricwlaidd (DROS DRO)
Cytundeb dros dro - dros secondiad deilydd presennol y swydd hyd at 31/08/2026 yn y lle cyntaf.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos.
(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol yn ogystal â 5 diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd).
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS2 pwyntiau 3-4 (£21,895 - £22,538 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda'r Arweinydd Prosiect, Bethan Eleri Roberts, Rhif ffôn: 01248 363690
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs Bethan Eleri Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 363690;
e-bost: Bethan.Roberts@friars.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
DYDDIAD CAU: 10 Y.B, DYDD IAU, 27AIN O DACHWEDD 2025.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .
Manylion Person
Cymwysterau
HANFODOL
Addysgwyd i lefel TGAU gydag o leiaf gradd C (neu gyfwerth) naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg
DYMUNOL
Cymwysterau galwedigaethol sy'n ymwneud â defnyddio meddalwedd
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Cymhwyster addysg bellach ffurfiol a/neu radd mewn disgyblaeth berthnasol
Profiad
HANFODOL
Gwybodaeth weithredol o raglenni Microsoft Office
Casglu a dadansoddi gwybodaeth
Ymwybyddiaeth o'r egwyddorion y tu ôl i Ddiogelu Data a GDPR
DYMUNOL
Gweithio mewn amgylchedd addysgol (F/I)
Profiad o feddalwedd SIMS
Profiad o ddefnyddio VLE
Profiad o weithio ym maes rheoli data
Profiad o waith swyddfa a gweinyddol cyffredinol
Profiad sefydliadau addysg uwch
Sgiliau
HANFODOL
Sgiliau TGCh da
Y gallu i ganolbwyntio ar fanylion a chywirdeb wrth lunio adroddiadau.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol
Sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol gan gynnwys y gallu i fod yn hyblyg er mwyn cyflawni targedau.
Y gallu i weithio i ffinau amser.
Y gallu i ffurfio perthynas waith dda gyda chydweithwyr a chyrff allanol.
Brwdfrydig, arloesol a blaengar.
DYMUNOL
Y gallu i weithio gyda thîm amrywiol o staff.
Y gallu i weithio i safonau proffesiynol, i gynnal cyfrinachedd, i ddatblygu perthnasoedd gwaith effeithiol, meddwl yn annibynnol a gwneud penderfyniad ac i ddylanwadu ar eraill trwy berswâd/trafodaeth
Y gallu i weithio fel rhan o dîm, i gymryd cyfeiriad ac i ddefnyddio menter i flaenoriaethu gwaith
Meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da wrth ddelio â chydweithwyr, disgyblion, rhieni neu asiantaethau allanol
Y gallu i ddatblygu sgiliau newydd a defnyddio rhaglenni meddalwedd anghyfarwydd
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS:
Darparu cymorth a chefnogaeth i dîm gweinyddol yr ysgol ar gyfer grwpiau
dysgwyr a grwpiau blwyddyn academaidd.
CYFRIFOL I: Dan arweiniad yr Uwch Dîm Arwain ac yn atebol i Reolwr Busnes a
Rheowr Swyddfa yr Ysgol.
LEFEL DATGELU: Uwch
PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU:
• Darparu cymorth a chefnogaeth i drefnu grwpiau blwyddyn academaidd a
thasgau gweinyddol cysylltiedig yn effeithlon ac effeithiol o ddydd i ddydd
• Cynorthwyo gyda threfnu a pharatoi deunyddiau ar gyfer digwyddiadau megis
Nosweithiau Rhieni, Nosweithiau Agored a Diwrnodau Blasu, gan gynnwys
cysylltu â'r Rheolwr TG a'i gynorthwyydd ar gyfer sesiynau rhithwir ar-lein
• Cynhyrchu ffigurau presenoldeb a logiau ymddygiad yn ôl yr angen ar gyfer y
Pennaeth Blwyddyn ac anfon llythyrau a chynnal taenlen presenoldeb gyda'r
camau a gymerwyd
• Cynorthwyo gyda'r trefniadau derbyn i'r ysgol
• Darparu cymorth gyda loceri , gan gynnwys dyrannu allweddi a bancio
adneuon
• Cynhyrchu a thrin data ac adroddiadau yn ôl yr angen
• O dan gyfarwyddyd, cysylltu'n effeithiol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei
rhannu'n briodol
• Cydgysylltu'n briodol â thiwtoriaid dosbarth ynghylch yr holl faterion
gweinyddol perthnasol
2
Ar gyfer cefnogaeth y Gyfadran:
• Defnyddio rhaglenni SIMS a Microsoft Office megis Word, Excel, PowerPoint
ac ati i baratoi dogfennau a chyflwyniadau ac i ddatblygu a chynnal cronfeydd
data
• Cynorthwyo i ddatblygu ac atgynhyrchu deunyddiau ar gyfer cyfadran o dan
gyfarwyddyd y Pennaeth y Gyfadran yn ogystal ag aelodau o D îm Rheoli'r
Gyfadran pan fo angen
• Cynorthwyo â llungopïo, styffylu, lamineiddio a rhwymo deunyddiau
• Helpu i gadw hysbysfyrddau yn gyfredol
• Cynnal cofnodion
• Cymryd nodiadau a chynhyrchu cofnodion cyfarfodydd
• Ymateb yn briodol i negeseuon ff ôn ac electronig
• Cefnogi a chynorthwyo gyda pharatoi, atgynhyrchu, coladu a ffeilio
dogfennau ar wah ân
• Cynorthwyo i gysylltu a meithrin cysylltiadau ag asiantaethau allanol ac
amrywiol feysydd cwricwlaidd yr Ysgol
Cyfrifoldebau eraill
• Sicrhau bod yr holl ddyletswyddau a chyfrifoldebau yn cael eu cyflawni yn
unol â pholisi iechyd a diogelwch yn y gwaith yr ysgol
• Cymryd rhan yng nghynllun gwerthuso'r ysgol gan sicrhau bod safonau a
thargedau perfformiad yn cael eu gosod a'u bodloni o fewn yr amserlen
gytunedig
• Cydgysylltu a chwblhau gwaith i staff yr ysgol
• Dyletswyddau swyddfa cyffredinol i gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ateb
galwadau ff ôn ac ymholiadau, e-byst, argraffu, cefnogi ymwelwyr ar y safle,
delio â disgyblion a rhieni/gofalwyr.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl y cyfarwyddyd.
Nid yw'r rhestr o gyfrifoldebau uchod yn holl gynhwysfawr, efallai y gofynnir i
staff gweinyddol gyflawni'r holl ddyletswyddau ychwanegol rhesymol yn unol
â chyfarwyddyd yr UDA neu eu rheolwr llinell.
Gellir diwygio'r disgrifiad swydd a'r dyraniad o gyfrifoldebau penodol o bryd
i'w gilydd drwy gytundeb.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi