MANYLION
  • Lleoliad: Treorchy, Rhondda Cynon Taf, CF42 6ED
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: 01 September, 2022
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £14,383 - £14,383
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Dros Dro (Lefel 3) - Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen

Cynorthwyydd Addysgu Dros Dro (Lefel 3) - Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen

Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen
YSGOL GYNRADD GYMRAEG YNYSWEN
Clinic Rd, Ynyswen, Treorci
Rhondda Cynon Taf CF42 6ED
https://www.yggynyswen.cymru/

Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 3) Dros Dro

27.5 Awr yr wythnos (Amser tymor yn unig)

Gradd 6 £22,129 x 65%

Amser Dechrau'r Swydd - Medi 2022

Dymuna Corff Llywodraethol Ynyswen apwyntio gynorthwyydd brwdfrydig, sensitif a chydwybodol.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio dan arweiniad y staff Addysgu a defnyddio ei flaengaredd i weithredu rhaglenni gwaith cytûn, gydag unigolion/grwpiau, yn yr ystafell ddosbarth a’r ardal tu allan. Disgwylir i’r ymgeisydd sefydlu perthynas gadarnhaol gyda disgyblion, gan fod yn esiampl dda a gosod disgwyliadau uchel trwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwylir i’r ymgeisydd weithio gyda'r athrawes a staff cefnogi er mwyn sefydlu amgylchedd dysgu priodol yn unol â chynlluniau gwersi a chynorthwyo ag arddangos gwaith disgyblion. Edrychwn ymlaen at groesawu aelod newydd i dîm llwyddiannus Ynyswen.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd Gwener (12pm) ar 24/06/2022.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.