MANYLION
  • Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Gyflog 4: £25,773 - £28,599 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cyllid

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa Gyflog 4: £25,773 - £28,599 y flwyddyn

Cynorthwyydd Cyllid

Graddfa Gyflog 4: £25,773 - £28,599 y flwyddyn

Llawn Amser a Chyfnod Penodol (Cyfnod Mamolaeth) hyd at 30ain Tachwedd 2026

Mae gennym gyfle newydd a chyffrous yn adran Cyllid Coleg Penybont.

Diben y swydd:

Cynorthwyo cywirdeb o wybodaeth ariannol y grŵp trwy gynnig cynhaliaeth effeithiol ac effeithlon o'r cyfriflyfrau gwerthiant a phryniant, yn ogystal â System Archeb Prynu'r Coleg a'i is-gwmni oedd. Hefyd, mae gofyn i chi helpu sicrhau bod cofnodion yn gywir, ac i fonitro incwm.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.