MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
Darlithydd Gwyddor AnifeiliaidApplication Deadline: 5 November 2025
Department: Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau
Employment Type: Rhan Amser
Location: Campws Pibwrlwyd
Compensation: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
DescriptionMae'r Gyfadran Celfyddydau Creadigol a Choginiol, Gwyddor Anifeiliaid, Modurol a Thechnoleg am benodi darlithydd gwyddor anifeiliaid dynamig, blaengar sydd â gweledigaeth ac ysfa i weithio gyda'r tîm presennol i lywio darpariaeth gwyddor anifeiliaid yn y dyfodol yng Ngholeg Ceredigion. Dyma gyfle gwych i lunio dyfodol addysg gwyddor anifeiliaid a gwneud gwahaniaeth go iawn mewn cymuned academaidd lewyrchus.
Byddwch yn cyflwyno gwersi diddorol o ansawdd uchel ar draws gwahanol lefelau (Lefel Mynediad 3 i Lefel 6), yn cefnogi datblygiad y cwricwlwm, ac yn mentora dysgwyr i gyrraedd eu nodau academaidd a phroffesiynol.
Dewch â'ch gwybodaeth, angerdd a chreadigrwydd i Goleg Sir Gâr a helpwch ni i feithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr anifeiliaid.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cyflwyno gwersi ysbrydoledig ym maes gwyddor anifeiliaid ar draws sawl lefel.
- Datblygu adnoddau cwricwlwm a chyfrannu at arloesedd y gyfadran.
- Gweithredu fel Arweinydd Rhaglen Maes Dysgu (LAP) ar gyfer un garfan.
- Cefnogi cynnydd dysgwyr drwy ofal bugeiliol a hyfforddiant academaidd.
- Cysylltu â chyflogwyr, arbenigwyr yn y diwydiant, a sefydliadau addysg uwch.
- Hyrwyddo cyfleoedd lleoliadau gwaith i ddysgwyr a dysgu trwy brofiad.
- Cynnal safonau uchel o ran rheolaeth yn yr ystafell ddosbarth, asesu a sicrhau ansawdd.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
- Gradd berthnasol neu gymhwyster Addysg Uwch/Lefel Uwch cyfwerth
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol parhaus priodol
- Profiad ymarferol/diwydiannol perthnasol ym maes gwyddorau anifeiliaid
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg
- Profiad addysgu perthnasol
- Profiad busnes yn y diwydiannau ar dir
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4 Hanfodol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4 Hanfodol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein