MANYLION
  • Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog:  Graddfa Gyflog 4\/5: £25,773 - £31,845 y flwyddyn pro rata
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hwylusydd Dysgu Cynhwysol

Coleg Penybont

Cyflog:  Graddfa Gyflog 4\/5: £25,773 - £31,845 y flwyddyn pro rata

Hwylusydd Dysgu Cynhwysol
(Gorchudd Mamolaeth)

Graddfa Gyflog 4/5: £25,773 - £31,845 y flwyddyn pro rata

Llawn Amser ac yn ystod y tymor yn unig

Cyfnod Penodol hyd at 31ain Awst 2026

Cyflog yn ystod y Tymor yn Unig (yn seiliedig ar 29 wythnos yn weddill o'r flwyddyn academaidd) - £16,478 - £20,360 y flwyddyn.

Sylwch, bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau a weithiwyd am weddill y flwyddyn academaidd.

Rydym yn chwilio am Hwylusydd Dysgu Cynhwysol i ymuno â'n tîm ADY brwdfrydig am gyfnod penodol, dros gyfnod mamolaeth.

Diben y swydd - Cefnogi Pennaeth Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a'r Dirprwy CADY i greu amgylchedd deniadol a chroesawgar i ddysgwyr yn eich hwb Anghenion Dysgu Ychwanegol dynodedig.

Bydd gennych brofiad o weithio gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac anabledd, yn benodol cefnogi dysgwyr ag Awtistiaeth, Anawsterau Emosiynol / Cymdeithasol / Ymddygiadol, Anghenion Synhwyraidd, Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol. Byddwch yn gallu ymgymryd â gofal personol a meddu ar gymhwyster Lefel 3 perthnasol neu'n barod i ymgymryd ag ef.

Os ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a'n helpu i greu amgylchedd dysgu hyd yn oed yn fwy cynhwysol, rydym am glywed gennych chi!

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.