MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2461
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyflog o:
L15 - £74,384
Cyflog i:
L21 - £86,183
Oriau Contract:
Llawn Amser
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae Ysgol Y Dderwen yn Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd wedi'i lleoli yng Nghaerfyrddin. Mae'n darparu addysg i ddisgyblion yn yr ystod oedran 3 - 11 oed.
Mae gan Ysgol Y Dderwen ffocws cryf ar yr iaith a diwylliant Cymraeg, gyda'r holl wersi'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan yr ysgol dîm ymroddedig o staff sy'n darparu amgylchedd cefnogol a gofalgar i'r disgyblion ddysgu a thyfu.
Mae'r Llywodraethwyr am benodi ymarferydd ysbrydoledig, brwdfrydig, ymroddgar a deinamig i barhau â'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ac i godi ymhellach y cyfleoedd a'r safonau addysgol i'n holl ddisgyblion.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu swydd Pennaeth gyntaf feddu ar y CPCP.
Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS Manwl.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch a Mr. Alun Charles, Cadeirydd y Llywodraethwyr, drwy'r ysgol ar 01267 235598.
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 10fed o Dachwedd, 2025
Llunio rhestr fer: ">Dydd Iau, 13eg o Dachwedd 2025
Cyfweliadau: ">Dydd Mawrth a Dydd Mercher, 25ain a 26ain o Dachwedd 2025
Disgrifiad Swydd:
25-10-16 - Pecyn Penodi Pennaeth - Y Dderwen.pdf - 583KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
25 Tachwedd 2025
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 10/11/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.

- Gweledigaeth glir o ragoriaeth addysgol gyda brwdfrydedd ac ymroddiad i wella cyflawniadau disgyblion
- Ymrwymiad i welliant parhaus, gan adeiladu ar gryfderau presennol yr ysgol tra'n darparu heriau i ddatblygu ymhellach brofiad ac arbenigedd staff a disgyblion.
- Y gallu i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd disgyblion a staff
- Disgwyliadau uchel o ran cynnydd, cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion, tra'n sicrhau bod diddordebau a lles disgyblion yn cael eu cadw wrth galon yr ysgol
- Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf a'r gallu i ymgysylltu'n effeithiol â phlant, rhieni, staff a llywodraethwyr trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu swydd Pennaeth gyntaf feddu ar y CPCP.
Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS Manwl.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch a Mr. Alun Charles, Cadeirydd y Llywodraethwyr, drwy'r ysgol ar 01267 235598.
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 10fed o Dachwedd, 2025
Llunio rhestr fer: ">Dydd Iau, 13eg o Dachwedd 2025
Cyfweliadau: ">Dydd Mawrth a Dydd Mercher, 25ain a 26ain o Dachwedd 2025
Disgrifiad Swydd:
25-10-16 - Pecyn Penodi Pennaeth - Y Dderwen.pdf - 583KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
25 Tachwedd 2025
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 10/11/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd