MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £21.12 / awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Ymgynghorydd Hyfforddi ac Aseswr Achlysurol ar gyfer Prentisiaethau (Cheffylau)
Coleg Sir Gar
Cyflog: £21.12 / awr
Ymgynghorydd Hyfforddi ac Aseswr Achlysurol ar gyfer Prentisiaethau (Cheffylau)Application Deadline: 31 October 2025
Department: Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau
Employment Type: Dros dro
Location: Campws Pibwrlwyd
Compensation: £21.12 / awr
DescriptionYdych chi'n frwdfrydig ynghylch datblygu talent a chefnogi dysgwyr i lwyddo yn y gweithle?
Ymunwch â'n tîm Dysgu Seiliedig ar Waith (WBL) ymroddedig fel Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr a helpu i lunio dyfodol prentisiaethau ar draws Cymru.
Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rydyn ni'n ymrwymedig i ddarparu rhagoriaeth. Mewn partneriaeth â chonsortiwm B-WBL, rydyn ni'n gweithio'n agos â chyflogwyr lleol i ddarparu rhaglenni prentisiaeth safon uchel sy'n bodloni anghenion dysgwyr a diwydiant hefyd.
Mae hwn yn gyfle cyffrous a gwerth chweil i chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus.
Cyfrifoldebau AllweddolFel Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr byddwch chi'n:
- Arwain prentisiaid drwy eu taith ddysgu, gan sicrhau lefelau uchel o gyflawniad, cynnydd ac ymgysylltiad.
- Meithrin a chynnal perthnasoedd cryf â dysgwyr, cyflogwyr, staff addysgu a chyrff dyfarnu.
- Cyflwyno ac asesu cymwysterau galwedigaethol, cynnal adolygiadau rheolaidd a sicrhau y caiff holl Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) y rhaglen eu bodloni
- Rheoli cynnydd prentisiaeth gan ddefnyddio ein systemau digidol a sicrhau cydymffurfiad llawn â safonau Llywodraeth Cymru a chyrff dyfarnu.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
- NVQ Lefel 3 (neu gyfwerth) mewn maes galwedigaethol perthnasol
- TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Brofiad diwydiannol perthnasol
- Y gallu i ddefnyddio ystod o Systemau TG
- Sgiliau cyfathrebu, trefniadol a gweinyddol ardderchog.
- Dyfarniadau Aseswr (os nad yw'r ymgeisydd yn meddu ar y rhain, rhaid eu cyflawni o fewn 12 mis o ddyddiad dechrau'r swydd)
- IOSH Rheoli'n Ddiogel
- Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2 - Hanfodol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2 - Hanfodol
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein