MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £23,684.25 - £26,848.54 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £23,684.25 - £26,848.54 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swydd -Darparu gwasanaeth cynghori a chefnogi effeithiol, effeithlon a chyfeillgar i ddarpar fyfyrwyr a dysgwyr sy'n astudio yng Ngholeg Menai. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys gweithio wrth ddesg gymorth gan gynorthwyo dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio, darparu cymorth a'u cyfeirio fel y bo briodol, darparu gwybodaeth ac arweiniad ar amrediad o ddarpariaethau a gwasanaethau ariannol i fyfyrwyr, gweinyddu cronfeydd cyllid myfyrwyr, derbyn a chofnodi ceisiadau gan fyfyrwyr am wasanaethau ariannol, mewnbynnu a chadw cofnodion o ddata.
Byddwch yn gallu dangos bod gennych brofiad o weithio mewn swydd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid a bydd arnoch angen sgiliau TG da. Mae'n hanfodol fod gennych sgiliau gwasanaethu cwsmeriaid a chyfathrebu o'r radd flaenaf. Mae'r gallu i fod yn hyblyg a gweithio mewn amgylchedd deinamig yn hanfodol.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/053/25
Cyflog
£23,684.25 - £26,848.54 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos, 42 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y Coleg)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
04 Tach 2025
12:00 YH (Ganol dydd)