MANYLION
  • Lleoliad: Bangor,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £24.24 - £25.46 yr awr yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymarferydd Iechyd Meddwl - Addysg Bellach (Cyfnod mamolaeth) hyd at 30.06.2026, Tymor yn Unig

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £24.24 - £25.46 yr awr yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd

Datblygwyd y swydd newydd hon am gyfnod penodol fel rhan o'n hymrwymiad i Strategaeth Lles Staff a Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai 2021-2024. Gan weithio gyda'r Rheolwr ADY, Rheolwyr y Gwasanaethau i Ddysgwyr, Rheolwyr y Meysydd Rhaglen, y tiwtoriaid, BIPBC a phartneriaid allanol bydd deiliad y swydd yn hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith y dysgwyr:
  • Hyfforddi a chefnogi staff: codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a'r prosesau sydd ar waith i gefnogi dysgwyr, a chynorthwyo staff sy'n cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion iechyd meddwl.
  • Adnabod: datblygu model cynaliadwy ar gyfer adnabod dysgwyr a all fod angen cefnogaeth ychwanegol gyda'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol.
  • Pontio: cefnogi dysgwyr ag anghenion iechyd meddyliol ac emosiynol i drosglwyddo i'r coleg.
  • Asesu: ar y cyd â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, cynnal asesiadau o iechyd meddwl dysgwyr.
  • Cynlluniau gofal: ar y cyd â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, cynhyrchu cynlluniau gofal ar gyfer dysgwyr sydd angen cymorth gyda materion iechyd meddwl.
  • Atgyfeirio dysgwyr at asiantaethau cefnogi allanol a chomisiynu asiantaethau cefnogi allanol.
  • Monitro ac adolygu'r gefnogaeth a roddir i ddysgwyr ynghyd â'u cynlluniau gofal.

  • Ymyriadau: llunio a/neu ddarparu ymyriadau a hyfforddiant i gefnogi dysgwyr ag anghenion iechyd meddwl ac emosiynol.

    Manylion Swydd
    Cyfeirnod y Swydd
    AS/050/25

    Cyflog
    £24.24 - £25.46 yr awr yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

    Lleoliad Gwaith
    • Bangor
    • Llandrillo-yn-Rhos

    Hawl gwyliau
    • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
    • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
    • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
    • Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.


    Patrwm gweithio
    37 awr yr wythnos, Tymor yn unig (yn ystod tymor y Coleg hyd at 30.06.2026)

    Hawliau Pensiwn
    Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

    Math o gytundeb
    Llawn Amser Cyfnod Penodol

    Dyddiad cau
    31 Hyd 2025
    12:00 YH (Ganol dydd)