MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanfairfechan,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £13,389 - £14,037 y flwyddyn (Llawn Amser: £25,989 - £26,403) (G03)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £13,389 - £14,037 y flwyddyn (Llawn Amser: £25,989 - £26,403) (G03)
Lleoliad gwaith: Ysgol Bab LlanfairfechanBydd yr oriau gwaith oddeutu 20.00 awr yr wythnos, bydd y swydd ar raddfa G03, £13.47 - £13.69 yr awr.
Mae angen unigolyn brwdfrydig i ddarparu gwasanaeth arlwyo ar gyfer y disgyblion, staff ac ymwelwyr. Bydd yn darparu prydau ysgol yn unol â bwydlenni y cytunwyd arnynt yn ganolog a chyflawni'r dyletswyddau goruchwylio cysylltiedig.
Prif ddyletswyddau'r swydd fydd:
1. Trefnu, paratoi a gweini bwyd amser cinio i myfyrwr, staff ac ymwelwyr Ysgol Bab Llanfairfechan.
2. Darparu hyfforddiant ymarferol i weithwyr newydd a chyd weithwyr tra gweithio yn y gegin.
3.Coginio'r prydau sydd angen, monitro'r prydau bwyd, rhannu'r bwyd, archebu, golchi llestri a glanhau'r gegin a'r ystafell fwyta
4. Bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant addas ac i ddatblygu (weithiau y tu allan i ddiwrnodau/oriau gweithio arferol trwy drefnu ymlaen llaw) h.y. Hylendid Bwyd Canolradd a Maeth Sylfaenol.
5. Dyletswyddau clercio cysylltiedig.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Wendy Pritchard Rheolwr Ardal Arlwyo 01492 575581 wendy.pritchard@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gynnal sgwrs syml yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.