MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,344 - £37,817
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwydd Dysgu Lefel 4 (Arbennig) Ysgol Bro Dinefwr

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £33,344 - £37,817

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 2445

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig

Lleoliad:

Llandeilo

Gradd:

Gradd G +4%

Cyflog:

£33,344 - £37,817

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£17.28 - £19.60

Oriau Contract:

32.5

Dewch i ymuno â'n tîm

32.5 awr yr wythnos - Contract Parhaol.

Gwahoddir ceisiadau am swydd Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4 dros dro. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn cael ei benodi. Bydd angen gwybodaeth sylfaenol o'r Gymraeg arnoch. Gellir darparu cefnogaeth resymol ar ôl eich penodi i gyrraedd y lefel hon. Bydd angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a'r Ysgol ar rif ffon 01558 824800 / E bost frontdesk@brodinefwr.org.uk

Disgrifiad Swydd:

Teaching Assistant Level 4 SEN (Unit) Ysgol Bro Dinefwr.pdf - 308KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 02/11/2025, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.