MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Maes Dysgu Mathemateg a Chyfrifiadura - Ysgol Penrhyn Dewi

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru 3-16 oed yw Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi ac mae'n gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi a'r cyffiniau. Wedi'i lleoli yn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'r ethos Cristnogol a chymunedol. Mae gan Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi draddodiad ac enw da rhagorol am ddefnyddio ei hamgylchedd unigryw i sbarduno profiadau dysgu dilys. Gwelwyd tystiolaeth o hyn yn y cameo a gomisiynwyd gan Estyn yn dilyn eu harolygiad yn hydref 2022. Mae'r ysgol yn ysgol rhwydwaith arweiniol ar gyfer rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon Prifysgol Abertawe. Ym mis Ebrill 2026, neu'n gynt os yn bosibl, mae'r ysgol am benodi ymarferydd blaengar ac arloesol a chanddo gefndir amlwg o arweinyddiaeth. Mae hwn yn gyfle gwych i addysgwr angerddol sydd am ddatblygu ei yrfa mewn tîm llwyddiannus a chefnogol. Ymunwch â ni i lunio dyfodol Mathemateg a Chyfrifiadura yn ein hysgol, wrth i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn gweithredu'n gwbl gyson â'r newidiadau diweddaraf i'r cwricwlwm a chreu amgylchedd dysgu arloesol, blaengar lle y gallwch chi wir adael eich ôl.

Mae'r gallu i addysgu Mathemateg yn ein hysgol pob oed hyd at ac yn cynnwys TGAU yn hanfodol. Croesewir ac anogir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd wedi'u hyfforddi.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau hollbwysig i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Ein nod yw cynorthwyo plant a phobl ifanc agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch pob plentyn a byddant yn cymryd camau gweithredu i ddiogelu llesiant plant, gan gydnabod bod ganddynt yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol pob ysgol.

Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.