MANYLION
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,424 - £27,951 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd Peirianneg Fodurol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £24,424 - £27,951 / blwyddyn

Technegydd Peirianneg Fodurol
Application Deadline: 21 October 2025

Department: Modurol

Employment Type: Parhaol - Rhan Amser

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Head of Curriculum

Compensation: £24,424 - £27,951 / blwyddyn

DescriptionMae Coleg Sir Gâr yn chwilio am Dechnegydd Modurol brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm Peirianneg deinamig ar sail 0.8 cyfwerth ag amser llawn (FTE).

Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi darlithwyr i ddarparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel ar draws ein rhaglenni modurol. Gan weithio gydag offer a chyfleusterau modern, byddwch yn helpu i osod a chynnal gweithgareddau yn y gweithdy, sicrhau amgylchedd diogel ac effeithlon i ddysgwyr, a chyfrannu at ddatblygiad parhaus ar gyfer hyfforddiant ymarferol yn unol â safonau'r diwydiant.

Dyma gyfle gwych i chwarae rhan allweddol wrth siapio'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol modurol.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • ddarparu cefnogaeth a chymorth technegol ar gyfer gwaith dysgu ac addysgu o fewn eich maes, gan ymateb i anghenion myfyrwyr, staff academaidd a'r arweinydd (arweinwyr) cwrs perthnasol;
  • cynnal a chadw amgylchedd gwaith glân a diogel yn y gweithdai modurol, gan gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch;
  • paratoi, cynnal a diweddaru dogfennau Iechyd a Diogelwch perthnasol megis Asesiadau Risg, Systemau Gwaith Diogel, cofnodion COSHH a chofnodion cynnal a chadw cyfarpar, trwy gysylltu â thimau cwrs;
  • cynnal a chadw, uwchraddio a gwasanaethu cyfarpar a cherbydau gan gynnwys ailadeiladu ac atgyweirio, yn ôl y bwriad, y gofyn neu ar gais;
  • sicrhau bod cyfarpar cwrs, deunyddiau a stoc yn derbyn y gofal priodol a'u bod yn cael eu rheoli, eu cynnal a'u cadw a'u diogelu, a bod offer a chyfarpar yn cael eu storio o'r neilltu ar ôl pob sesiwn;
  • cadw stocrestr stordai ar gyfer nwyddau traul, cyfarpar ac adnoddau cyflwyno;
  • mynd ati i archebu stoc yn unol â gweithdrefnau ariannol y coleg a diweddaru'r gronfa ddata archebu ar-lein;
  • darparu gwasanaeth cyflenwi o'r stordai ar gyfer nwyddau traul y cwrs a gwasanaeth benthyca a dychwelyd ar gyfer yr holl gyfarpar adrannol ac eitemau cwrs eraill;
  • cymryd rhan yng nghyfarfodydd tîm y cwrs; pwyllgorau ymgynghorol myfyrwyr; a chyfarfodydd y maes cwricwlwm yn ôl y gofyn;
  • cyflawni dyletswyddau sy'n cefnogi gwaith marchnata a hyrwyddo rhaglen y cwrs;
  • cynorthwyo darlithwyr a myfyrwyr wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau mewn gweithdy, yn unol ag amserlen y cytunwyd arni;
  • cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau, Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
  • O leiaf Cymhwyster NVQ Lefel 3 mewn Cynnal ac Atgyweirio Cerbydau Modur
  • TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • IOSH Rheoli'n Ddiogel (Os nad oes gennych gymhwyster IOSH, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
  • Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
  • Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
  • Profiad diweddar a pherthnasol o'r maes/meysydd technegol dan sylw
  • Dealltwriaeth dda o'r rôl cymorth technegol mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
  • Bod yn gymwys wrth ddefnyddio'r peiriannau canlynol: Cyfarpar gweithdy modurol e.e. aliniwr pedair olwyn, cyfrifiaduron diagnostig
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Y gallu i weithio'n hyblyg
  • Trwydded yrru gyfredol
Dymunol
  • Gallu gyrru bws mini'r coleg
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Hanfodol
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein