MANYLION
  • Lleoliad: Newport, Newport, NP20 4UR
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 01 September, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Dosbarth - Ysgol Gymraeg Ifor Hael

Athro/Athrawes Dosbarth - Ysgol Gymraeg Ifor Hael

Rhif swydd EDSCH01378.5 - Athro/Athrawes Dosbarth - Ysgol Gymraeg Ifor Hael


Llawn amser, contract blwyddyn yn y lle cyntaf
Dyddiad Dechrau Medi 2022


Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i apwyntio athro ymroddgar, brwdfrydig a llawn cymhelliant, i ymuno a’u tîm o staff hapus ym mis Medi. Dyma gyfle i fod yn rhan o ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg egnïol, sydd wedi’i dyfarnu’n ‘Rhagorol’ gan Estyn.


Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus gydweithio’n agos gyda theulu’r ysgol er mwyn sicrhau parhad i ethos a’r safonau rhagorol. Mi fydd disgwyliadau uchel gan yr ymarferwyr llwyddiannus o’u safbwynt eu hunain a’r plant, ac yn dangos arfer ystafell ddosbarth rhagorol ac yn ymroddedig i ragoriaeth ym mhob agwedd ar ddysgu.


Gwahoddir ceisiadau am y swydd contract blwyddyn, oddi wrth athrawon profiadol neu athrawon sydd newydd gymhwyso. Dylid nodi, wrth ymgeisio, profiadau oedran dysgu, diddordebau a chymwysterau penodol cwricwlaidd. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus dysgu naill ai yng Ngham Cynnydd 2 neu Gam Cynnydd 3. Dylid nodi felly, wrth ymgeisio, pa sgiliau/doniau arbennig sydd gennych i gynnig i’r ysgol.


Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â’r ysgol, ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Bethan Parry-Jones, Pennaeth, ar 01633 414694.


Dyddiad cau: 24:00 Dydd Gwener, 1af o Orfennaf 2022
Rhif cyfeirnod: EDSCH01378




Mae’r swydd hon wedi’i heithrio rhag Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a dilynir proses sgrinio gynhwysfawr ar gyfer pob ymgeisydd. Fe fydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Rhwystro. Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae disgwyl bod yr holl staff a gwirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Mae gennym rhwymedigaeth gyfreithiol i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd gofyn i chi ddarparu dogfennau priodol megis eich tystysgrif geni llawn/ pasbort / trwydded waith yn unol â'r Ddeddf Nodded a Mewnfudo 1996).


MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON


Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer pob swydd naill ai’n Gymraeg neu’n Saesneg


Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.


Our values – Courageous, Positive and Responsible
Ein gwerthoedd – Dewr, Cadarnhaol, Cyfrifol