MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £21.72 - £33.57 per hour (inclusive of holiday pay), dependent on qualifications and experience
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Plymwaith (Dros Dro - salwch)

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £21.72 - £33.57 per hour (inclusive of holiday pay), dependent on qualifications and experience

Pwrpas y swydd -

Mae Adran Adeiladwaith yn Coleg Menai yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern.

Rôl darlithydd mewn Plymwaith yw trefnu a chyflwyno sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth mewn Plymio i lefel 3 a phynciau ychwanegol cysylltiedig, megis dŵr poeth heb dyllau aer a gosod a chynnal a chadw nwy (paratoi dysgwyr ar gyfer asesiad ACS). Mae'r rôl hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus addysgu sesiynau ymarferol mewn lleoliad gweithdy o bryd i'w gilydd a chynnal asesiad o waith dysgwyr, gallai hyn olygu mynd allan i'r gweithle i gynnal asesiad. Bydd darlithwyr hefyd yn cysylltu â'r Sefydliad Dyfarnu (City & Guilds) ac yn sicrhau bod ansawdd gwaith dysgwyr yn cael ei gynnal drwy weithgareddau sicrhau ansawdd mewnol.

Mae'r rôl hefyd yn cynnwys arweinyddiaeth o fewn y tîm, fel bod aseswyr a hyfforddwyr yn gweithio ar yr un pynciau yn y gweithdy ag sy'n cael eu haddysgu mewn sesiynau theori.

Yn ogystal â hyn, bydd angen cynnal sesiynau tiwtorial rheolaidd i sicrhau bod pob dysgwr ar y trywydd iawn ac i gyfoethogi eu hamser yn y coleg. Bydd darparu cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan yng nghystadlaethau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac World Skills hefyd yn rhan o'r rôl.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.

3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.

4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.

5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/037/25

Cyflog
£21.72 - £33.57 per hour (inclusive of holiday pay), dependent on qualifications and experience

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio
Hyd at 20 awr yr wythnos ar gael (Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd)

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
21 Hyd 2025
12:00 YH (Ganol dydd)