MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £19.86 - £21.19 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol Peirianneg / Cerbyd Modur, Tymor yn unig
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £19.86 - £21.19 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Maer Adran Peirianneg yn Coleg Menai yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau arbenigol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau Peirianneg. Mae dysgu ac addysgu yn digwydd gydag offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern, gan gynnwys adeilad STEM £15m a adeiladwyd yn ddiweddar.Rydym yn chwilio am staff rhan-amser i ymuno ag adran sydd eisoes yn llwyddiannus sy'n falch o gefnogi staff a myfyrwyr i ragori ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o arddangos sgiliau ymarferol ym maes eu harbenigedd a rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
O dan chyfarwyddyd cyffredinol staff darlithio, bydd y Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol yn cyflwyno sesiynau ymarferol i grwpiau o ddysgwyr mewn gweithdy ymarferol a bydd yn darparu cymorth i ddarlithwyr drwy fonitro ac asesu cynnydd dysgwyr, gan ddarparu arweiniad a chymorth lle bo angen
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/034/25
Cyflog
£19.86 - £21.19 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 28 diwrnod (yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor) sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir
Patrwm gweithio
hyd at 16 awr yr wythnos (patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd)
40 wythnos y flwyddyn, tymor yn unig (yn ystod tymhorau;r Coleg)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
20 Hyd 2025
12:00 YH (Ganol dydd)