MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria - Ial,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,943 - £30,044
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hyfforddwr / Arddangoswr Celf a Dylunio (Tecstilau a Ffasiwn) CC/2981

Coleg Cambria

Cyflog: £25,943 - £30,044

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd : Hyfforddwr / Arddangoswr Celf a Dylunio

Lleoliad : Iâl

Math o Gontract : Tymor Penodol tan fis Mehefin 2026, Rhan Amser (0.66 FTE, 24.42 awr yr wythnos)

Cyflog Pro Rata: ID1 £17,122.38 - ID4 £20,093.04 Mae pwyntiau'r ystod cyflog uwch yn amodol ar dystiolaeth o ddatblygiad blaenorol i'r Golofn Gyflog Uwch

Mae Coleg Cambrig yn chwilio am Hyfforddwr / Arddangoswr ymroddedig i ymuno â'n tîm Celf a Dylunio ar ein safle Iâl. Mae'r swydd yn cynnig cyfle unigryw i ennyn diddordeb ac ysbrydoli myfyrwyr ein rhaglenni Celf a Dylunio cynhwysfawr trwy arddangos a hyfforddi'n ymarferol.

Fel Hyfforddwr / Arddangoswr, byddwch yn bennaf gyfrifol am gyflwyno sesiynau ymarferol strwythuredig sy'n meithrin y sgiliau technegol a doniau creadigol ein myfyrwyr. Byddwch yn paratoi a chyflawni amserlen o weithgareddau ymarferol yn deillio o gydlynwyr cyrsiau a darlithwyr perthnasol. Bydd monitro cynnydd myfyrwyr ar draws paramedrau amrywiol, megis cymhwysedd mewn sgiliau ymarferol, presenoldeb a disgyblaeth, yn hanfodol. Yn ogystal, mae eich swydd yn cynnwys asesu gwaith myfyrwyr a chyfrannu at ddatblygiad a gwerthusiad parhaus ein harlwy o gyrsiau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cadw cofnodion manwl ac yn cynnal safonau proffesiynol wrth ryngweithio â myfyrwyr a'r gyfadran. Mae creu amgylchedd dysgu cefnogol, hyrwyddo cyfle cyfartal a chadw at brotocolau iechyd a diogelwch yn agweddau hollbwysig ar y swydd hon. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn mentrau datblygu staff ac yn cael eich annog i gynnal eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun.

Mae'r swydd hon yn addas i unigolion ag angerdd am decstilau a ffasiwn, gyda'r gallu i gymell a chefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial. Byddai profiad blaenorol mewn lleoliad addysg tebyg yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.

Gofynion Hanfodol

• Cymhwyster Lefel 3 o leiaf neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc proffesiynol perthnasol

• Gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu

• Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch yn sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn

• Profiad diwydiannol diweddar yn y maes arbenigol perthnasol

Mae sgiliau Iaith Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon, fodd bynnag, anogir dysgwyr Cymraeg* sydd â'r gallu i gyrraedd lefel 3/4 o fewn cyfnod o 18 mis i 2 flynedd i wneud cais hefyd. Bydd angen i ddysgwyr Cymraeg fod ar Lefel 2 a dangos ymrwymiad i gyflawni rhuglder. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i gefnogi'r datblygiad hwn trwy gynllun datblygu proffesiynol wedi'i deilwra. Bydd asesiad sgiliau Iaith Gymraeg yn rhan o'r broses ddethol i nodi cymhwysedd, hyder ac addasrwydd ar gyfer cynllun datblygu.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig