MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £60,188.32 - £63,477.80 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £60,188.32 - £63,477.80 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwpras y swydd - Byddwch yn arwain y gwaith o gyflwyno cwricwlwm dwyieithog o ansawdd uchel ym mhob llwybr dysgu rydym ni'n ei gynnig ym maes Adeiladu - mae hyn yn cynnwys ein darpariaeth lawn amser, prentisiaethau, Addysg Uwch, a'r cwricwlwm 14-19. Gan weithio mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, byddwch yn goruchwylio rheolaeth y cwricwlwm a rheolaeth weithredol ar draws sectorau arbenigol fel Gwaith Trydan, Plymio, Gwaith Saer, Gwaith Brics a Phlastro. Ym mhob disgyblaeth ceir gweithdai sydd wedi'u cynllunio'n bwrpasol ar gyfer addysgu arbenigol a dysgu ymarferol, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i ragoriaeth.Yn y swydd allweddol hon, byddwch yn ysbrydoli ac yn arwain tîm ymroddedig o Ddarlithwyr, Aseswyr a Thechnegwyr i ddarparu addysg ddiddorol, gynhwysol a dwyieithog sy'n cefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei botensial llawn. Gan ymwreiddio ein gwerthoedd - cydraddoldeb, gonestrwydd, ymddiriedaeth, tegwch, a pharch - byddwch yn meithrin diwylliant o gydweithio a gwelliant parhaus, gan sicrhau bod eich tîm yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu herio a'u cymell i gynnal y safonau uchaf ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
Gan adeiladu ar gyflawniadau'r gorffennol, byddwch yn arwain y gwaith o gynllunio a datblygu'r cwricwlwm er mwyn sicrhau bod pob rhaglen yn gyfredol, yn berthnasol i'r diwydiant, ac wedi'i theilwra i anghenion unigryw pob llwybr dysgu. Bydd gofyn i chi hefyd ystyried yn ofalus yr angen am gynaliadwyedd ariannol i sicrhau llwyddiant hirdymor.
Bydd rheoli dangosyddion perfformiad allweddol fel presenoldeb, cadw staff a chyflawniad yn ganolog i'ch rôl. Byddwch yn defnyddio eich dealltwriaeth o ddata i wella profiadau dysgwyr ac i feithrin llwyddiant. Ochr yn ochr ag arwain y cwricwlwm, byddwch yn goruchwylio prosesau sicrhau ansawdd hanfodol - gan gynnwys dilysu mewnol, amserlennu a chynllunio asesiadau - ac yn gweithio'n agos gyda thimau cefnogi i sicrhau bod yr holl ddysgwr yn cael yr arweiniad a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Byddwch yn hanfodol i'r gwaith o ddatblygu partneriaethau cryf rhwng cyflogwyr a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cyd-fynd â gofynion newidiol y sector ac i ehangu cyfleoedd i ddysgwyr. Yn ogystal, byddwch yn cynnal y safonau uchaf o ran diogelu ac ansawdd, gan gynrychioli'r ymddiriedaeth a'r tegwch sy'n sail i ethos ein Coleg.
Mae hwn yn gyfle unigryw i ddod â'ch sgiliau arwain, eich gwybodaeth o'r cwricwlwm, a'ch brwdfrydedd dros addysg ddwyieithog i adran sy'n meddu ar gyfleusterau rhagorol, sy'n edrych i'r dyfodol, ac sydd â gweledigaeth glir ar gyfer twf. Bydd eich cyfraniadau nid yn unig yn adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes ar y gweill ond hefyd yn llywio llwyddiant staff a dysgwyr y dyfodol ar draws pob llwybr adeiladu.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/033/25
Cyflog
£60,188.32 - £63,477.80 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
- 37 diwrnod y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
24 Hyd 2025
12:00 YH (Ganol dydd)