MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Merthyr Tydfil,
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £55,520.00 - I: £58,400.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Rheolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyflog: £55,520.00 - I: £58,400.00
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a phrofiadol sy'n angerddol am anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a fydd yn gweithio i sicrhau'r ddarpariaeth orau i ddisgyblion ag ADY. Byddwch yn arweinydd cryf a meddyliwr strategol gyda gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn o'r system ADY yng Nghymru, yn gallu arwain a chydlynu prosesau statudol allweddol, ysgogi gwelliant, a chefnogi'r gwaith o ddarparu darpariaeth o ansawdd uchel ar draws yr awdurdod lleol. Yn fedrus mewn cydweithredu, cyfathrebu ac wedi ymrwymo i ddull sy'n canolbwyntio ar y person, byddwch yn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a defnydd effeithlon o adnoddau, yn ogystal â rheoli tîm ADY gweithgar a phrofiadol o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg i sicrhau darpariaeth gwasanaeth effeithiol.I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gavin Metheringham, Pennaeth ADY a Chynhwysiant: gavin.metheringham@merthyr.gov.uk
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd ddydd Iau 15 Hydref 2025.
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 14.10.2025 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.
Gwybodaeth bellach: