MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £42,839 - £47,181
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Strategol Diogelu

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £42,839 - £47,181

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 2279

Sefydliad:

Cyngor Sir Caerfyrddin

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Gradd J

Cyflog:

£42,839 - £47,181

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£22.20 - £24.46

Oriau Contract:

37

Dewch i ymuno â'n tîm

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am benodi unigolyn ymroddedig a phrofiadol i fod yn Swyddog Strategol Diogelu yn ein tîm. Mae'r rôl hon yn hanfodol wrth sicrhau diogelwch a llesiant plant a phobl ifanc yn ein lleoliadau addysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag ysgolion, gweithwyr addysgol proffesiynol, a rhanddeiliaid eraill i roi polisïau a gweithdrefnau diogelu ar waith a'u monitro.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gryf ei gymhelliant ac yn frwdfrydig a bydd yn gallu gweithio'n annibynnol ond hefyd cydweithio lle bo angen. Bydd yn cyfathrebu'n hyderus ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys darparu hyfforddiant yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd yn gyfrifol am:
  • helpu i lunio polisïau a gweithdrefnau diogelu a'u rhoi ar waith mewn lleoliadau addysgol.
  • Darparu hyfforddiant a chymorth i staff ysgol ar faterion diogelu.
  • Cynnal archwiliadau ac adolygiadau rheolaidd o arferion diogelu mewn ysgolion.
  • Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer pryderon diogelu a darparu arweiniad a chyngor arbenigol.
  • Cydgysylltu ag asiantaethau allanol, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu, i sicrhau dull cydgysylltiedig o ddiogelu.
  • Cadw cofnodion cywir a pharatoi adroddiadau ar weithgareddau diogelu.

Mae croeso i chi gysylltu â Vicky Jeremy i gael trafodaeth anffurfiol am y swydd drwy ffonio 07919 226889

Disgrifiad Swydd:

015320.pdf - 240KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 4 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 13/10/2025, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.