MANYLION
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £51,965 - £56,899 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Diwylliant ac Addysgeg Ddwyieithog

Coleg Sir Gar

Cyflog: £51,965 - £56,899 / blwyddyn

Pennaeth Diwylliant ac Addysgeg Ddwyieithog
Application Deadline: 10 October 2025

Department: Dwyieithrwydd

Employment Type: Parhaol

Location: I gael ei gadarnhau

Compensation: £51,965 - £56,899 / blwyddyn

DescriptionLlunio addysgu a diwylliant dwyieithog ar gyfer y dyfodol.


Mae gan Goleg Sir Gâr gyfle cyffrous a phrin i Bennaeth Diwylliant ac Addysgeg Ddwyieithog ymuno ar sail barhaol â'n Cyfarwyddiaeth addysgu a dysgu gwobrwyedig.

Ymunwch â ni fel ein Pennaeth Diwylliant ac Addysgeg Ddwyieithog newydd a chwarae rhan flaenllaw wrth lunio dyfodol y Gymraeg a hunaniaeth Gymreig ar draws ein coleg. Mae hwn yn gyfle cyffrous i hyrwyddo addysgu a dysgu dwyieithog, ysbrydoli staff a dysgwyr, ac ymgorffori diwylliant Cymru wrth wraidd bywyd y coleg. Rydym yn chwilio am arweinydd uchelgeisiol a chreadigol a all ysgogi arloesedd mewn addysgeg, dathlu a hyrwyddo ein hunaniaeth genedlaethol, a sicrhau bod dwyieithrwydd yn gryfder byw a gweladwy ym mhopeth a wnawn.

Fel Pennaeth Diwylliant ac Addysgeg Ddwyieithog, bydd deilydd y swydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau, polisïau a gweithdrefnau'r Coleg ym meysydd Dwyieithrwydd, yr iaith Gymraeg, a Diwylliant Cymru. Bydd y rôl hon yn adrodd wrth y Gyfarwyddiaeth Addysgu, Dysgu ac Addysg a hefyd bydd yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Dilyniant Dysgwyr a Phartneriaethau i roi'r weledigaeth ar waith ar gyfer trawsnewidiad parhaus addysgeg a diwylliant dwyieithog.

Pwrpas y RôlAddysgeg
  • Arwain trawsnewidiad parhaus addysgeg ddwyieithog, gan gefnogi staff ac arweinwyr cwricwlwm i gynllunio a chyflwyno dysgu dwyieithog a chyfrwng-Cymraeg o ansawdd uchel sy'n ysgogi arloesedd, cynhwysiant, a dilyniant dysgwyr.
  • Ysbrydoli a grymuso dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, gan sicrhau eu bod yn profi cyfleoedd dwyieithog ystyrlon sy'n gwella eu dysgu, eu hyder a'u cyflogadwyedd yn y dyfodol.
  • Adeiladu gallu a hyder staff mewn addysgu dwyieithog drwy ddysgu proffesiynol, mentora a chreadigaeth fframweithiau, adnoddau ac arfer enghreifftiol sy'n ymgorffori'r Gymraeg mewn modd ystyrlon ym mhob ystafell ddosbarth ac amgylchedd digidol.
Diwylliant
  • Meithrin diwylliant dwyieithog bywiog ar draws y coleg drwy ddathlu'r iaith Gymraeg, treftadaeth, a hunaniaeth Cymru trwy ddigwyddiadau, llais y dysgwr, a phartneriaethau sy'n normaleiddio a gwerthfawrogi dwyieithrwydd ym mywyd bob dydd y coleg.
  • Hybu buddion diwylliannol a chyflogadwyedd y Gymraeg, gan adeiladu partneriaethau allanol cryf a chreu cyfleoedd i ddysgwyr a staff arddangos dwyieithrwydd yn rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Gweithredu fel llysgennad gweladwy dros yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig o fewn y coleg a thu hwnt, gan fodelu balchder mewn dwyieithrwydd ac ysbrydoli staff a dysgwyr i'w weld fel rhywbeth sy'n hanfodol i lwyddiant personol, addysgol, a phroffesiynol.
Mae'r rôl hon yn ganolog i'n gweledigaeth a dyfodol dwyieithrwydd a byddwch yn gweithio'n agos â'r Cyfarwyddwr Addysgu, Dysgu ac Addysg, Cyfarwyddwr Dilyniant a Phartneriaethau a'r Is-bennaeth Cwricwlwm ac Ansawdd i herio rhagdybiaethau, archwilio cyfleoedd a llunio'r profiad dysgu dwyieithog yn y dyfodol i'r rheiny i gyd sy'n gweithio ac yn dysgu yn ein coleg.

Mae'r gwaith o lunio rhestr fer yn debygol o gael ei gwblhau yn yr wythnos sy'n dechrau ar 10 Hydref 2025. Os ydych yn llwyddiannus yn ystod llunio'r rhestr fer, mae'n debygol y bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn yr wythnos sy'n dechrau 20ain Hydref 2025.

I gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu sgwrs/cyfarfod anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 4 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 4 Hanfodol
  • Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Hanfodol

Cymwysterau:

Gradd/HND neu Gymhwyster Cyfwerth
Cymhwyster addysgu TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth

Profiad:
Profiad perthnasol o reoli gan gynnwys cyflwyno a gweithredu mentrau newydd
Profiad o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol
Profiad o ddatblygu gweithgarwch cynhyrchu incwm mewn amgylchedd addysgol

Nodweddion Personol:
Cyfathrebwr ardderchog â diplomyddiaeth a thact
Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
Y gallu i arwain tîm sydd ar wasgar yn ddaearyddol
Lefel uchel o gywirdeb personol a Cyfrinachedd
Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr uwch
Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
Dealltwriaeth o ddatblygiadau mewn AB, AU, Dysgu Seiliedig Ar Waith a'r sector 14-19

Rhinweddau ac Ymddygiadau:

Arwain trwy esiampl, gan osod safonau uchel o ran proffesiynoldeb
Dangos dull cadarnhaol, agored a chefnogol o reoli
Gwerthfawrogi a meithrin creadigrwydd mewn eraill
Annog ac ysgogi eraill i rannu perchnogaeth a chyfrifoldeb dros wasanaeth
Herio a datrys perfformiad llai na boddhaol
Datblygu perthnasoedd gwaith da

Arall:
Y gallu i deithio rhwng yr holl gampysau

Buddion
  • Byddwch yn cael 37 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 50 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein