MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £19.86 - £21.19 yr awr yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol - Plastro, dros dro am y flwyddyn academiadd 2025/26

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £19.86 - £21.19 yr awr yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd

O dan chyfarwyddyd cyffredinol staff darlithio, bydd y Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol yn cyflwyno sesiynau ymarferol i grwpiau o ddysgwyr mewn gweithdy ymarferol a bydd yn darparu cymorth i ddarlithwyr drwy fonitro ac asesu cynnydd dysgwyr, gan ddarparu arweiniad a chymorth lle bo angen.

Mae'n debygol y bydd Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol llawn amser wedi ei amserlennu am hyd at 1000 o oriau cyswllt gyda dysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd gyda lleiafswm o 500 awr yn goruchwylio dysgwyr mewn gweithdy.




Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/026/25

Cyflog
£19.86 - £21.19 yr awr yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 28 diwrnod (yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor) sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio
7.5 awr yr wythnos, 38 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y coleg)

Noder os gwelwch yn dda - mae'r patrwm gwaith i'w gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
13 Hyd 2025
12:00 YH (Ganol dydd)