MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
Arweinydd Arloesi ar gyfer Addysgu a DysguApplication Deadline: 10 October 2025
Department: Cwricwlwm
Employment Type: Dros dro
Location: Campws Graig
Compensation: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
DescriptionMae gan Goleg Sir Gâr gyfle cyffrous i Arweinydd Arloesi ar gyfer Addysgu a Dysgu ymuno â'n tîm addysgu a dysgu gwobrwyedig, dros dro (dros gyfnod mamolaeth).
Fel Arweinydd Arloesi yn ein Coleg Google, mae cyfle i unigolyn arloesol a brwdfrydig weithio fel rhan o dîm canolog ochr yn ochr â Darlithwyr i ddatblygu popeth ym maes addysgu a dysgu ar draws y coleg er mwyn sicrhau ansawdd uchel parhaus ar draws AB, DSW ac AU. Bydd yr Arweinydd Arloesi yn gweithio ar draws pob un o'r 7 campws yn hyrwyddo ac yn arwain gwaith Fframwaith Strategol Digidol 2030 (JISC, 2019) yn y coleg. Bydd hyn yn rhoi ffocws ar ddatblygu a meithrin cymhwysedd digidol, gwella addysgu a dysgu, gwella hygyrchedd at adnoddau digidol, cyfrannu at amgylchedd digidol saff a diogel a hyrwyddo arloesedd a chydweithio.
Mae'r tîm addysgu a dysgu yn arwain y fframweithiau dysgu proffesiynol gwobrwyedig ac mae ein hymagwedd at Ddysgu Proffesiynol yn canolbwyntio ar egwyddor chwilfrydedd. Bydd y rôl hon yn datblygu'r fframweithiau hyn sy'n canolbwyntio ar arloesedd ac arloesedd digidol. Fel yr Arweinydd Arloesi, byddwch yn arwain ar brosiectau mewnol ac allanol sy'n gysylltiedig yn benodol â thrawsnewid dysgu digidol. Byddwch yn ymchwilio i atebion ac yn eu rhoi ar waith mewn amgylchedd deinamig, lle mae pob diwrnod yn wahanol.
Mae'r rôl hon yn ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer Addysgu, Dysgu a Dysgu Proffesiynol ac addysgeg ddigidol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r timau rheoli yn y coleg, gan archwilio cyfleoedd a siapio profiad dysgu'r dyfodol i bawb sy'n gweithio ac yn dysgu gyda ni. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Addysgu, Dysgu ac Addysg a'r Cyfarwyddwr Addysgu, Dysgu ac Addysg ar brosiectau arloesol sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial, ac yn rhannu datblygiadau gyda chydweithwyr.
Gwybodaeth am y RôlPrif bwrpas rôl yr Arweinydd Arloesi ar gyfer Addysgu a Dysgu fydd:
- Arwain a chefnogi arloesedd ym mhob datblygiad ym maes dysgu ac addysgu yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion;
- Cefnogi pob agwedd ar ddatblygiad proffesiynol ar gyfer yr holl staff academaidd ar draws Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion;
- Arwain a chefnogi'r holl ddatblygiadau cyfoethogi dysgu drwy dechnoleg (TEL) yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion;
- Arwain a chefnogi prosiectau a chydweithredu mewnol ac allanol sy'n ymwneud ag Addysgu a Dysgu;
- Cyfrannu at gyflwyno cyrsiau sy'n rhan o'r cwricwlwm Addysgu, Dysgu ac Addysg;
- Arwain a chefnogi gyda'r gwaith o gyflwyno, dylunio a chynnal ymarferion cwmpasu ar brosiectau mewn perthynas ag AI cynhyrchiol ac addysgeg ddigidol.
- Rhoi ein strategaeth addysgeg ddigidol ar waith a fydd yn cael effaith ar draws y coleg ac a fydd yn trawsnewid ac yn datblygu'r profiad addysgu a dysgu digidol yn barhaus.
- Sefydlu eich hun fel arbenigwr wrth ddefnyddio technoleg, gyda phwyslais arbennig ar botensial Addysgu a Dysgu Digidol y dyfodol.
- Gweithio gyda'r timau Cwricwlwm i ymgorffori technoleg arloesol sy'n benodol i'r cwricwlwm er mwyn gwella profiad a set sgiliau'r dysgwyr.
Beth fydd ei angen arnochI fod yn llwyddiannus yn y rôl, byddwch chi angen:
- Gradd neu Gymhwyster cyfwerth.
- Cymhwyster Addysgu
- Profiad addysgu perthnasol
- Profiad diweddar/perthnasol o TEL
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o ddulliau arloesol wrth ddefnyddio AI cynhyrchiol yn y dirwedd addysgu a dysgu
- Tystiolaeth o ddefnyddio Google Workspace yn hyderus
- Profiad o weithio gyda dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs)
Yr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Ddymunol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Ddymunol
- Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.
Mae'r gwaith o lunio rhestr fer yn debygol o gael ei gwblhau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 10 Hydref 2025 . Os ydych yn llwyddiannus yn ystod llunio'r rhestr fer, mae'n debygol y bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 20ain Hydref 2025.
I gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu sgwrs/cyfarfod anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Tom.braddock@Colegsirgar.ac.uk.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 28.68% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein