MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,943 - £30,044
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,943 - £30,044
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr UnigolynColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arddangoswr - Adeiladu
Lleoliad: Ffordd y Bers
Math o Gontract: Llawn Amser: Cyfnod Penodol - 26 Mehefin 2025
Cyflog: £25,943 - £30,044 (dyma'r cyflog llawn amser, bydd y cyflog yn pro rata yn dibynnu ar eich patrwm gwaith)
. Mae ein hadran dysgu Sylfaen yn Ffordd y Bers, Wrecsam, yn chwilio am Hyfforddwr Arddangoswr profiadol. O fewn ein gweithle modern sydd wedi'i gyfarparu ag offer safonol y diwydiant, byddwch chi'n gyfrifol am gyflwyno sesiynau ymarferol cynhwysfawr. Mae eich dyletswyddau'n cynnwys cynllunio gweithgareddau ymarferol mewn cydweithrediad â'n tîm cwrs, sicrhau datblygiad sgiliau ein myfyrwyr, a rheoli tasgau gweinyddol allweddol fel cadw cofnodion ac asesiadau myfyrwyr.
Mae cadw at ein canllawiau ar Gyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, ac Ansawdd yn hanfodol.
Os oes gennych chi arbenigedd sylweddol mewn Amgylchedd Adeiladu Aml-Sgiliau ac yn awyddus i fentora'r genhedlaeth nesaf, rydyn ni'n croesawu eich cais. Ymunwch â'n tîm ymroddedig yn Ffordd y Bers, a chyfrannwch at ddatblygiad proffesiynol ein diwydiant.
Gofynion Hanfodol
- Mae'n rhaid bod gennych chi gymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth.
- Profiad masnachol a domestig mewn Adeiladu.
- Gallu dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol a sut y byddwch chi'n sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn.
- Gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu.
- Dangos lefel dda o gymhwysedd TG. Rhaid gallu defnyddio'r Rhyngrwyd a'r Fewnrwyd yn ogystal â bod yn barod i wneud hynny a gallu dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni a systemau TG newydd.
- Gallu ymdrin yn gyflym ac yn effeithiol ag ymddygiad amhriodol yn yr ystafell ddosbarth.
- Gallu cyflwyno sesiynau ymarferol effeithiol o ansawdd uchel yn hyderus sy'n gwella dysgu i'n myfyrwyr.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig