MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Cyflog 4 : £25,773 - £28,599 pro rata y flwyddynYn codi i Raddfa 5\/6 £29,004 - £35,131 pro rata y flwyddyn ar ôl cwblhau dyfarniadau aseswr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith mewn Plymio

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa Cyflog 4 : £25,773 - £28,599 pro rata y flwyddynYn codi i Raddfa 5\/6 £29,004 - £35,131 pro rata y flwyddyn ar ôl cwblhau dyfarniadau aseswr

Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith newn Plymio

Llawn Amser, Parhaol (37 Awr yr Wythnos)

Ystyrir hefyd oriau rhan amser

( Rydym yn hyblyg ac yn agored i drefniadau rannu swydd a/neu drefniadau gweithio rhan amser )

Graddfa Cyflog 4 : £25,773 - £28,599 pro rata y flwyddyn

Yn codi i Raddfa 5/6 £29,004 - £35,131 pro rata y flwyddyn ar ôl cwblhau dyfarniadau asesydd

(ynghyd ag atodiad marchnad £2,500 pro rata y flwyddyn)

Mae'r swydd hon yn cynnwys asesu sgiliau ymarferol a gwybodaeth greiddiol gysylltiedig sy'n ymwneud â'r rhaglenni prentisiaeth ar safle'r cwmni. Byddwch yn gweithio gyda phobl ifanc, prentisiaid ac ymgeiswyr aeddfed sy'n dymuno ennill cymwysterau cymhwysedd a gydnabyddir gan y diwydiant.

Disgwylir i chi weithio fel rhan annatod o'n tîm cyflwyno ac asesu, bydd gofyn i chi gynllunio a threfnu ymweliadau gweithle, cefnogi/mentora myfyrwyr, cynnal asesiadau ymarferol ar y safle, gweithio gyda chyflogwyr i nodi tasgau addas ar gyfer asesu a chynnal cofnodion asesu myfyrwyr cysylltiedig ag adolygiadau cynnydd yn ein safleoedd cwsmeriaid ledled ardal De Cymru.

Mae'r swydd hon yn gofyn am lefel uchel o hunan gymhelliant a sgiliau trefnu i gwblhau llwyth gwaith prysur o fewn amserlenni llym. Byddwch yn gallu dangos ystod eang o brofiad ymarferol a chymhwysedd technegol mewn Plymio, wedi'i gefnogi gan gwblhau prentisiaeth gydnabyddedig gydag isafswm o bum mlynedd o brofiad ôl-brentisiaeth a chymwysterau technegol priodol.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen:

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.