MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,140 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,140 / blwyddyn
Ymgynghorydd Hyfforddi ar gyfer Rhaglenni Twf Swyddi CymruApplication Deadline: 3 October 2025
Department: Dysgu Seiliedig ar Waith
Employment Type: Cyfnod Penodol - Llawn Amser
Location: Campws Graig
Reporting To: Pennaeth Dysgu Seiliedig Ar Waith
Compensation: £32,140 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr. Mae'r coleg yn gweithio mewn partneriaeth fel rhan o'r consortiwm B-wbl a gaiff ei arwain gan Goleg Sir Benfro.
Mae hon yn rôl gyffrous sydd wedi'i chynllunio i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflwyno rhaglenni JGW+ ar draws y busnes. Byddwch yn darparu cymorth trwy sicrhau bod ansawdd rhaglenni yn bodloni'r safonau gofynnol yn fewnol ac yn allanol hefyd er mwyn darparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau oll i'n dysgwyr. Bydd disgwyl i chi ymgysylltu â'r holl fudd-ddeiliaid i sicrhau bod perthnasoedd rhagorol yn cael eu cynnal a'u meithrin.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Gweithio'n agos gyda Cymru'n Gweithio i atgyfeirio pobl ifanc 16-19 oed i'r rhaglen;
- Sicrhau bod yr holl fudd-ddeiliaid allweddol yn ymgysylltu'n llawn ac yn cael y cyfathrebiadau priodol fel bod dysgwyr yn symud ymlaen yn llwyddiannus i gyflogaeth neu i ddysgu lefel uwch;
- Sefydlu rhwydwaith da o gyflogwyr i sicrhau bod y bobl ifanc yn cael cyfleoedd profiad gwaith gwerth chweil;
- Gweithio ar y cyd gan sirchau bod pob dangosydd perfformiad allweddol rhaglen JGW+ yn cael ei gyflawni;
- Gweithio gyda llwyth achosion wedi'i ddyrannu rhwng 35-45 o ddysgwyr.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- NVQ Lefel 3 neu uwch
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Gallu defnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys, gan gynnwys Microsoft WORD, EXCEL, pecynnau pwrpasol a rhaglenni cwmwl
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Sgiliau cyflwyno da
- IOSH Rheoli'n Ddiogel
- Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus sy'n dangos cymryd rhan mewn gweithgareddau i gynnal y wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf am arferion, cynnyrch a chyfarpar y diwydiant
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein