MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Soulbury A 3-8 a hyd at 3 phwynt Asesiad Proffesiynol Strwythuredig (SPA) Pro rata
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymarferydd Seicoleg Addysg Arbenigol ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG)

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Graddfa Soulbury A 3-8 a hyd at 3 phwynt Asesiad Proffesiynol Strwythuredig (SPA) Pro rata

Ymarferydd Seicoleg Addysg Arbenigol ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG)

Disgrifiad Swydd
RHONDDA CYNON TAF

GWASANAETH SEICOLEG ADDYSG

Ymarferydd Seicoleg Addysg Arbenigol ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG) 0.4 Cyfwerth ag Amser Llawn

Graddfa Soulbury A 3-8 a hyd at 3 phwynt Asesiad Proffesiynol Strwythuredig (SPA). Bydd pwyntiau SPA blaenorol yn cael eu hystyried.

Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi Seicolegydd Addysg a fydd yn cyfrannu at ddarparu cymorth effeithiol i blant sy'n derbyn gofal (PDG), gan sicrhau bod cymorth seicolegol wedi'i deilwra yn cael ei ddarparu'n brydlon. Bydd gyda'r ymgeisydd llwyddiannus o leiaf 2 flwyddyn o brofiad.

Bydd yr ymgeisydd yn aelod arbenigol o'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg, ac yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a'r Gwasanaethau i Blant er mwyn darparu gwasanaethau seicolegol o ansawdd uchel (gan gynnwys ymgynghori, asesu, ymyrryd, hyfforddi, ymchwil a chynnal mannau myfyriol).

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gyfrannu at waith yr Ysgol Rithwir, gan weithio gyda Phlant a Phobl Ifainc (PPI), Cynhalwyr a staff yr ysgol i ddatblygu strategaethau ymyrraeth priodol. Bydd hyn yn cynnwys dulliau therapiwtig i sicrhau bod plant a phobl ifainc yn cael mynediad at fyd addysg ac yn ymgysylltu ag ef er budd eu lles.

Bydd y rôl hefyd yn gofyn eich bod chi'n gweithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill a rhieni maeth er mwyn bodloni anghenion dysgu a llesiant y plant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori'n effeithiol ynglŷn â'r ddarpariaeth addysgol sydd ei hangen er mwyn bodloni anghenion plant a phobl ifainc a'i gynnwys yn rhan annatod o'r broses cynllunio gofal. Bydd gofyn ichi fynychu cyfarfodydd sy'n ymwneud â phlant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal yn y sir a thu hwnt.

Bydd disgwyl ichi weithio ar y cyd ag asiantaethau eraill er mwyn datblygu a darparu hyfforddiant sy'n ymwneud ag anghenion plant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal.

Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Cyngor Rhondda Cynon Taf yn wasanaeth deinamig ac arloesol sy'n cynorthwyo pobl ifainc a'u teuluoedd ac ysgolion mewn ardal ddaearyddol amrywiol. Rydyn ni'n ymrwymo i barhau i weithio gyda rhieni/gwarcheidwaid, ysgolion ac asiantaethau partner er mwyn helpu pob plentyn a pherson ifanc i 'adeiladu dyfodol gwell'.

Mae'r gwasanaeth yn darparu model gwasanaeth hyblyg sy'n sicrhau bod cymorth seicolegol yn cael ei ddarparu yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon. Mae ein gwasanaeth yn gwerthfawrogi pwysigrwydd arferion myfyriol yn benodol ac yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i staff dderbyn sesiynau goruchwylio i unigolion ac yn rhan o grŵp yn rheolaidd yn ogystal â sesiynau myfyrio wythnosol gyda chyfoedion i'ch cefnogi yn eich rôl. Bydd eich proses sefydlu wedi'i theilwra i chi a byddwch chi'n derbyn mentora parhaus.

Byddwch chi'n mwynhau gweithio gyda charfan fawr a chyfeillgar o Seicolegwyr Addysg cymwys sydd ag ystod eang o arbenigeddau a diddordebau.

Prif leoliad y swydd yw Canolfan Menter y Cymoedd yn Abercynon, sy'n hawdd ei chyrraedd o'r A470 a Chaerdydd.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â Rob Kempson, Pennaeth Seicoleg Addysg, robert.kempson@rctcbc.gov.uk, neu Kerry Webster, Dirprwy Flaen Swyddog - Seicolegydd Addysg, kerry.webster@rctcbc.gov.uk, neu ffonio (01443) 744333.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.