MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd Ysgolion Bro
G06 - £28,598 - £30,024
Addysg ac ymyrraeth gynnar
Seiliedig mewn Ysgolion a'r Swyddfa
Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'n hanfodol gallu gyrru car oherwydd mae'n bosibl y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gludo plant, pobl ifanc a theuluoedd - bydd angen yswiriant busnes.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn rhan o brosiect newydd o'r enw Ysgolion Bro a fydd yn gweithredu ar draws dwy Ysgol uwchradd yn Wrecsam.
Rôl Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd Ysgolion Bro fydd ffurfio, datblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol gyda rhieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc trwy waith uniongyrchol, cyngor a chanllawiau a gweithio gyda theuluoedd gan eu cefnogi a chynyddu eu hymgysylltiad â dysgu eu plant.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r ysgol a'r clwstwr a gydag ystod o bartneriaid gwasanaeth ehangach i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda theuluoedd y mae eu plant yn mynychu'r ysgol, i sicrhau bod gan y plant, yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, fynediad llawn at gyfleoedd addysgol a goresgyn rhwystrau i ddysgu a chymryd rhan.