MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £18,606 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd Ysgol Godre'r Berwyn

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £18,606 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG


YSGOLION DILYNOL


YSGOL GODRE'R BERWYN

(Cyfun 3 - 18: 578 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Cyn gynted â phosib

TECHNEGYDD MDaPh GWYDDONIAETH A THECHNOLEG

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Byddai profiad o weithio gyda disgyblion uwchradd o fantais, ond nid yw hyn yn amod ar gyfer ymgeisio.

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos

(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 (£18,316 - £18,606) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid, Ysgol Godre'r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259)

e-bost: iwan.jones@godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 5 MEDI, 2025.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Nid yw'n bolisi gan Gyngor Gwynedd i gydnabod derbyn ffurflenni cais ar wahân i'r ceisiadau a dderbynnir ar-lein. Fodd bynnag os ydych yn penderfynu ymgeisio am y swydd drwy beidio defnyddio'r system ar-lein ac yn dymuno cael cadarnhad bod eich cais wedi ei dderbyn, yna ffoniwch Iwan Jones, Rheolwr Busnes a Chyllid.

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma yn yr wythnos yn cychwyn 8fed o Fedi, 2025.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau nifer o dasgau gweinyddol yn effeithiol a chynnig gwasanaeth gweinyddol i Dim Rheoli'r Ysgol ac i raddau llai'r staff dysgu. Mae'r dyletswyddau yn amrywiol a hefyd yn amrywio o ddiwrnod i ddiwrnod

Swydd Ddisgrifiad

SWYDD DDISGRIFIAD TECHNEGYDD MDaPh GWYDDONIAETH A THECHNOLEG

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4, y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

Pwyntiau Cyflog: 5 - 6

Cyflog: (£18,606)

Oriau Gwaith: 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.

Pwrpas y Swydd

Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau nifer o dasgau ymarferol dydd i ddydd a fydd yn sicrhau bod offer ac adnoddau Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cyfrannu tuag at brofiadau dysgu cyfoethog disgyblion yr ysgol.

1 Cyffredinol

1.1 Trefnu a rheoli offer yn y maes.

1.2 Rheoli amser ei hun gan flaenoriaethu tasgau yn briodol.

1.3 Cefnogaeth a chymorth i staff a disgyblion yn ôl y galw.

1.4 Cynorthwyo gyda'r gofal cyffredinol o'r labordai ac ystafelloedd atodol (megis ystafelloedd paratoi, storfeydd), gan gynnwys gofal am y gwasanaethau (dŵr, trydan , nwy) gan hysbysu'r Arweinydd Maes os oes diffygion).

1.5 Cynnal a chadw'r adnoddau a deunyddiau y maes.

1.6 Bod yn gyfrifol am baratoi / estyn a chadw offer yn ddyddiol yn y labordai.

1.7 Cyd-weithio'n effeithiol â holl staff yr ysgol.

1.8 Gweithredu Polisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol gan fod yn gyson ymwybodol o agweddau iechyd a diogelwch ynghlwm â gwaith labordy / gweithdy.

2 Diogelwch



2.1 Cadw'r labordai a gweithdai yn drefnus a thaclus.

2.2 Tynnu sylw at beryglon neu ddiffyg gofal.

2.3 Cynnal arolwg rheolaidd o'r labordai a gweithdai er mwyn sicrhau bod offer trydanol yn ddiogel.

  • Penodol


  • 3.1 Gofalu am yr holl stoc, gan sicrhau bod rhestr gyfredol yn cael ei chadw, a hysbysu'r Arweinydd Maes pan fod angen archebu deunyddiau.

    3.2 Archebu offer yn ôl yr angen mewn cydweithrediad a'r Arweinwyr Maes / athrawon.

    3.3 Ymateb i geisiadau rhesymol byr rybudd yn ystod y dydd am offer / cymorth yn y labordai.

    3.4 Mynychu cyrsiau i sicrhau bod gwybodaeth am yr arferion diweddaraf yn gyfredol.

    3.5 Cynorthwyo staff addysgu i ddatrys problemau ynglŷn â defnyddio'r offer.

    3.6 Casglu, glanhau a chadw offer a defnyddiau ar gyfer y gwersi.

    3.7 Gweinyddu system catalogio a labelu offer, peiriannau a defnyddiau.

  • Gweinyddol


  • 4.1 Gwaith clercio, archebu a chadw stoc.

    4.2 Cadw trefn ar yr offer a'r adnoddau addysgiadol.

    5 Materion Cyffredinol Eraill

    5.1 Mynychu cyrsiau i sicrhau bod gwybodaeth am yr arferion diweddaraf yn gyfredol.

    • Ceisio ar lein - Sut?
    • Rhestr Swyddi