MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,699 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Prosiect Addysg

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £33,699 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Debbie Anne Williams Jonesar 01286 679489.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 28/08/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion Personol
Hanfodol

Un sy'n rhoi sylw i fanylion

Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol

Un sy'n gallu gweithio fel rhan o dîm

Un sy'n medru cyfathrebu ag ystod o swyddogion mewnol, Aelodau a swyddogion allanol

Person egnïol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel a'r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun

Un sy'n gallu ymdopi ag adegau o waith trwm mewn swyddfa brysur
Dymunol
-

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Gradd, cymhwyster proffesiynol neu profiad perthnasol yn y maes

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus
Dymunol
Sgiliau technoleg gwybodaeth uchel iawn gyda phrofiad o ddefnyddio

gwahanol becynnau

meddalwedd gan gynnwys Microsoft Office (e.e. Word, Outlook, Excel,

PowerPoint)

Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o ddatblygu fframweithiau a gweithdrefnau er mwyn cyflwyno gwell gwasanaeth

Profiad o weithio a chyfathrebu a nifer o fudd-ddeiliaid

Profiad o weithio ar becynnau gwaith cymhleth

Profiad o allu ymdopi a nifer o dasgau pwysig yr un pryd

Profiad o greu ystod eang o ddogfennaeth amrywiol
Dymunol
Profiad o gofnodi mewn cyfarfodydd

Profiad o weithio gyda methodoleg rheoli prosiectau e.e. PRINCE2

Profiad o gynghori, herio a dylanwadu ar lefel strategol mewn sefydliad

cymhleth

Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth

Y gallu i gynllunio, monitro, adrodd, trefnu, cynllunio a chyflwyno'n effeithiol

Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin a phobl, ac ar bapur a pharchu'r angen i fod yn gyfrinachol

Y gallu i gyfieithu dogfennau

Y gallu i weithio o dan gyfarwyddyd a chydweithio fel aelod o dîm
Dymunol
Yn hyddysg yn y broses a chamau statudol ynghlwm wrth faes ad-drefnu ysgolion

Gwybodaeth am hanfodion methodoleg rheoli prosiectau PRINCE2

Profiad o roi cymorth gydag achosion busnes

Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Gweithio o fewn yr Adran Addysg, yn benodol fel rhan graidd y tîm moderneiddio addysg. Yn chwarae rôl ganolog i gymhorthi bob agwedd o'r gwaith sydd yn gysylltiedig â rhedeg prosiectau blaenoriaeth y Cyngor.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Archebu adnoddau swyddfa o dan arweiniad Rheolwr y Rhaglen.

Prif ddyletswyddau
• Bod yn gyfrifol am weithredu pecynnau gwaith trwy:

• Casglu a dadansoddi gwybodaeth sydd angen er mwyn cyflawni cynhyrchion pecynnau gwaith dynodedig o fewn amserlenni disgwyliedig

• Cwblhau ymchwil a pharatoi gwybodaeth ystadegol, gan gynnwys elfennau cyllidol

• Ymgymryd â thasgau gweinyddol cyffredinol ar gyfer y rhaglen gan gynnwys trefnu a chofnodi cyfarfodydd, cyfieithu dogfennau a threfnu cyfieithiadau

• Cwblhau gwaith yn gysylltiedig â gofynion statudol prosesau ad-drefnu ysgolion (yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol)

• Rhoi gwybodaeth i staff mewn gwasanaethau eraill o'r Cyngor am y Rhaglen

• Derbyn ac ymateb i geisiadau am wybodaeth ar faterion yn ymwneud â'r Rhaglen

• Cydweithio i sefydlu system ffeilio gadarn

• Cwblhau gwaith yn unol â chyfarwyddiadau a chynnal y weithdrefn rheoli fersiwn dogfennau

• Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mewnol ac allanol yn ymwneud â'r rhaglen

• Ymdrin ag archebion a phrosesu anfonebau sy'n gysylltiedig â' Comisiynu gwaith gan ymgynghorwyr allanol yn ôl y gofyn

• Creu ystod o wahanol ddogfennau e.e. bwletin diweddaru'r wefan

• Dyletswyddau perthnasol eraill sy'n cael eu gosod gan y Rheolwr Llinell

Chwarae rhan llawn wrth i'r gwasanaeth sefydlu yr hyn sy'n bwysig i bobl Gwynedd.

Chwarae rhan llawn wrth ddatblygu egwyddorion gweithredu'r tim ynghyd a chyfrifoldeb personol dros gadw atynt.

Gweithredu'n hyblyg o fewn egwyddorion gweithredu'r Tim i gyflawni yr hyn sy'n bwysig i drigolion Gwynedd.

Edrych yn barhaus am gyfleoedd i wella'r gwasanaeth gan adnabod materion sy'n rhwystro'r tim rhag cyflawni yn effeithiol ac effeithlon a gweithredu er mwyn eu datrys.

Sicrhau fod y wybodaeth sydd ei angen er mwyn profi pa mor dda yr ydym yn cyflawni'r hyn sy'n bwysig yn cael ei gadw gan ddefnyddioi'r wybodaeth honno i wella gwasanaeth.

Cyfranu a chymryd penderfyniadau priodol er mwyn cyflawni'n bwysig i bobl Gwynedd

Cynorthwyo timau eraill i gyflawni'n bwysig i bobl Gwynedd

Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni'r swyddogaethau uchod.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau arbennig
• Trwydded yrru gyfredol ddilys ac yswiriant busnes car.

• Bydd angen gweithio ar ben eich hun tu allan i oriau swyddfa arferol yn ôl y gofyn.

• Bydd angen i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio drwy Wynedd gyfan ar adegau.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi