MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa NJC G01 pwynt 2 - 3 £16,505 - £16,763 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 Dros Dro - Ysgol Llanddoged

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa NJC G01 pwynt 2 - 3 £16,505 - £16,763 y flwyddyn

Ysgol Llanddoged
Llanddoged, Llanrwst LL26 0BJ
Ffôn: (01492) 640 363
Pennaeth: Mr Gareth Davies

Yn eisiau erbyn mis Medi 2025

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 DROS DRO
(Contract Dros Dro hyd at 12/04/2026)

Cyflog: Graddfa NJC G01 pwynt 2 - 3 £16,505 - £16,763 y flwyddyn
Oriau: 30 awr yr wythnos, tymor ysgol a 5 diwrnod hyfforddiant

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro, i gefnogi disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd mae croeso i chi gysylltu â'r Pennaeth ar pennaeth@llanddoged.conwy.sch.uk

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English