MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro (PRU) x2

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.

Lleoliad gwaith: Canolfan Addysg Conwy

Mae Canolfan Addysg Conwy yn edrych am athro rhagorol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio a gwneud gwahaniaeth gyda rhai o ddisgyblion mwyaf bregus Conwy. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ag anghenion meddygol a/neu anawsterau ymddygiad sylweddol ac anghenion dysgu penodol. Bydd ANG yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn athro sydd â dychymyg a brwdfrydedd i weithio mewn amgylchedd holistig ac yn aml yn heriol gyda sgiliau rheoli dosbarth da. Mae profiad o ADY ac AEY yn amlwg yn fanteisiol, ond mae Gwasanaeth Cynhwysiant Cymdeithasol Conwy yn awyddus i benodi unigolyn y gall pobl ifanc fuddsoddi eu dysgu ac ymddiriedaeth.

Cysylltwch â Mr Scott Fordwhalley am drafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd ( scott.fordwhalley@conwy.gov.uk / 01492 575192)

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am Ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Gwyn Owen, Pennaeth ( owena424@hwbcymru.net / 01492 514925)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.