MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,654 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Ymgysylltu âr Gymuned a Theuluoedd

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £32,654 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Swydd dros dro yw hon hyd at 31/08/26 yn y lle cyntaf.

Rydym yn ychwanegu i'r tîm Swyddogion Teulu a Chymuned ac yn chwilio am unigolyn sydd yn angerddol i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc y Sir ac i ymuno a ni fel Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd Ardal Meirionnydd.

Os ydych chi'n mwynhau amgylchedd gwaith ddynamig ac yn frwdfrydig am gefnogi plant a phobl ifanc i oresgyn eu rhwystrau a chyflawni eu potensial yna byddem ni wrth ein boddau'n clywed gennych.

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus brofiad o weithio yn a dealltwriaeth dda o'r system addysg leol a gwasanaethau sydd yn cefnogi plant phobl ifanc a theuluoedd.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Ellen Rowlands, Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiad, ar 01286 679007 neu drwy e-bost: ellenrowlands@gwynedd.llyw.cymru

Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 10.00 O'R GLOCH, 21/07/2025

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol, (ysgrifenedig, clywedol a chyflwyniadol)

Y gallu i gyflwyno gwybodaeth yn glir a chynhyrchu adroddiadau cryno i hysbysu, cefnogi a herio cydweithwyr i feddwl yn adeiladol

Y gallu i ffurfio perthnasoedd gwaith adeiladol gyda chydweithwyr o gefndiroedd a sefydliadau amrywiol

Y gallu i gysylltu agendâu i weld y modd y mae cyflwyno gwasanaethau yn datblygu o fewn fframwaith strategol. Yn agored i herio a derbyn syniadau newydd a ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau - byddwch yn edrych ymlaen nid yn ôl, a byddwch ac yn gallu herio eraill mewn modd adeiladol

Y gallu i weithio'n annibynnol, defnyddio'ch menter eich hun a bod yn rhagweithiol wrth roi cynlluniau cytunedig ar waith

Y gallu i fod yn hyblyg ac i gydweithio

Y gallu i gyflwyno ar gyfer amrywiaeth o gyfarfodydd ac ystod o gynulleidfaoedd.

Y gallu i weithio i derfyn amser
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster proffesiynol perthnasol mewn addysg, rhianta, ymddygiad neu waith cymdeithasol (neu gymhwyster proffesiynol perthnasol arall) ar lefel uwch/arbenigol.

Dealltwriaeth o'r gwasanaethau cymorth arbenigol sydd ar gael i blant a theuluoedd

Gwynedd

Profiad arbenigol profedig o gefnogi plant ag anghenion bugeiliol.

Profiad o ddehongli a threchu trafferthion bugeiliol ar sail ysgol gyfan.

Profiad o weithio mewn lleoliad aml-asiantaeth
Dymunol
Cymhwyster hyd at NVQ Lefel 3

Profiad o weithio mewn lleoliad addysgol a/neu brofiad amlwg o weithio gyda phobl ifanc a theuluoedd

Profiad o weithio mewn rôl sy'n gofyn am wybodaeth a sgiliau diogelu rhagorol

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Profiad perthnasolHanfodol
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â phlant, ar sail unigol a grŵp.

Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â rhieni a theuluoedd, asiantaethau partner, gweithwyr proffesiynol a staff ar bob lefel

Y gallu i asesu anghenion plant a'u teuluoedd ac i weithio gydag asiantaethau eraill i lunio pecynnau cymorth.

Y gallu i greu perthnasoedd adeiladol â rhieni, gofalwyr a staff.

Y gallu i ddatblygu a chynnal cysylltiadau agos a gweithio'n effeithiol gyda staff o asiantaethau eraill.

Y gallu i gasglu gwybodaeth a chynhyrchu adroddiadau.

Sgiliau cynllunio a threfnu da gydag ymagwedd hyblyg tuag at y dasg o reoli gwaith
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Profiad o weithio gyda theuluoedd i wella deilliannau ar gyfer plant

Gwybodaeth am ystod o faterion sy'n berthnasol i addysg a datblygiad plant

Wedi mynychu ystod o gyrsiau hyfforddi arbenigol perthnasol i ddatblygu'ch gwybodaeth am broblemau sy'n effeithio ar blant a'u teuluoedd a'r ffordd orau o'u rheoli.

Dealltwriaeth drylwyr o Ddeddfwriaeth Amddiffyn Plant ac wedi'i hyfforddi i ddelio â phroblemau Amddiffyn Plant.
Dymunol
Hyfforddiant ar reoli ymddygiad.

Sgiliau cwnsela.
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Rôl y Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd yw cynorthwyo'r dasg o fynd i'r afael â thangyflawni trwy weithio mewn partneriaeth â theuluoedd, rhieni, gofalwyr, disgyblion ac asiantaethau eraill lle bynnag y bo'n briodol. Y nod yw galluogi disgyblion, yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, i gael mynediad llawn at gyfleoedd addysgol, a chefnogi teuluoedd i oresgyn y rhwystrau i waith dysgu ac i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol ac ym mywyd eu cymunedau.

• Bydd gwaith y Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd yn canolbwyntio ar weithgareddau ataliol ac ymyriadau cynnar. Bydd yn gweithio gyda'r rhai sy'n meddu ar anghenion islaw'r trothwyon hynny sy'n ysgogi sylw'r gwasanaethau statudol. Bydd ei ffocws allweddol ar gydlynu gwasanaethau ac ar ddatblygu model integredig â phartneriaid a fydd yn canolbwyntio ar ysgolion.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Gliniadur

• Ffon symudol
Prif ddyletswyddau
• Gweithio gyda Swyddogion Cyswllt Teulu o fewn ysgolion unigol, gan gynnwys y cyfnodau pontio allweddol, er mwyn nodi'r teuluoedd hynny sy'n anodd eu cyrraedd a'n ymddieithrio o'r system addysg neu o dan anfantais oherwydd tlodi.

• Cynnal cyfarfodydd â phartneriaid i integreiddio dulliau ar draws ffiniau sefydliadol a chefnogi partneriaid, er mwyn gwella ymgysylltiadau a deilliannau i deuluoedd.

• Cynrychioli ysgolion fel rhan o'r dull partneriaeth a chynnal darlun cywir o gynnydd teuluoedd fel pwynt cyswllt canolog, gan gydgysylltu ag asiantaethau a swyddogion ymroddedig sy'n ymgysylltu â theuluoedd, e.e. Swyddog Cyswllt Teulu, Gweithiwr Allweddol, Gweithiwr Arweiniol.

• Datblygu a rhannu dulliau gweithredu dros amser er mwyn sicrhau bod ysgolion ac ymyriadau partner allanol yn cydgysylltu'u negeseuon i deuluoedd, a'u bod yn cael eu defnyddio.

• Gweithio gyda phartneriaid i ganfod effeithiau'r ymyriadau a dderbyniwyd gan deuluoedd/pobl ifanc unigol trwy ddatblygu a rhannu'r dulliau a ddefnyddir i'w mesur.

Gwybodaeth am y maes rhianta a chefnogaeth

• Deall hawliau a chyfrifoldebau sylfaenol rhieni i fagu eu plant, a chefnogi rhieni trwy eu helpu i wella'u sgiliau rhianta, e.e. trwy ddarparu gwybodaeth briodol neu atgyfeiriadau i ystod eang o wasanaethau yn y gymuned.

• Gweithio gyda Swyddogion Cyswllt Teulu mewn ysgolion i nodi cymorth yn y gymuned ar gyfer rhieni sydd â phlant ag arwyddion cynnar o broblemau cymdeithasol ac emosiynol neu broblemau'n ymwneud â'u hiechyd neu'u hymddygiad, a gweithio gydag asiantaethau cymorth i atal problemau rhag gwaethygu a rhag llesteirio gallu'r plentyn i ymgysylltu â'r ysgol a'i waith dysgu.

• Darparu gwybodaeth ddiduedd neu atgyfeiriadau i rieni am wasanaethau lleol perthnasol sydd ar gael i rieni, plant a theuluoedd gan gynnwys y rhai a ddarperir gan sefydliadau addysg, gofal cymdeithasol, cyfiawnder ieuenctid, darparwyr gofal plant, y sector gwirfoddol ac eraill.

• Gweithio mewn partneriaeth â'r Rheolwr Ysgolion Bro i ganfod ffyrdd o gefnogi rhieni i feithrin eu hymgysylltiad â gwaith dysgu'u plant

• Cefnogi rhieni a'u plant yn ystod cyfnodau pontio i sicrhau eu bod yn ymgysylltu'n barhaus â'u gwaith dysgu.

• Sicrhau bod rhieni'n teimlo'n hyderus i ymgysylltu â gwaith dysgu'u plant trwy hwyluso a threfnu cyfleoedd dysgu teuluol o fewn y gymuned megis Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) a Dosbarthiadau Hyfedredd Cyfrifiadurol mewn partneriaeth â darparwyr lleol.

• Cynnal ymweliadau cartref lle bo'n briodol i gefnogi rhieni wrth iddynt annog eu plant i barhau â'u gwaith dysgu ar sail gyflawn a rheolaidd.

Adrodd

• Cadw cofnodion a'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â chyfarfodydd/cyswllt â phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd.

• Gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Ysgolion Bro i sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw'n dda a bod gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn modd amserol. Cyswllt ag asiantaethau eraill

• Cymryd rhan mewn gweithgorau mewnol a thrawssefydliadol fel y bo'n briodol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ac arferion gorau.

• Mynychu'r cyfryw gyfarfodydd yn ôl y gofyn i wella presenoldeb fwy fyth a helpu i hysbysu gwasanaethau eraill, neu ddatblygu'r rôl ymhellach.

• Cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ystod o asiantaethau lleol er mwyn cynnal gwybodaeth am wasanaethau y gellid cyfeirio rhieni atynt.



Cyfathrebiadau/cyfryngau cymdeithasol

• Gweithio gyda'r Rheolwr Ysgolion Bro i ddatblygu a chynnal cynnwys y cyfryngau cymdeithasol i sicrhau ei fod bob amser yn gyfredol, yn gynhwysfawr, yn gyfoes ac yn canolbwyntio ar amlygu'r ethos cymunedol.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• -

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi