MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,269 - £30,060 Pro Rata | Grade 5
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 - Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen

Torfaen Local Authority

Cyflog: £27,269 - £30,060 Pro Rata | Grade 5

37 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn (yn ystod y tymor ysgol)
Agorodd Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen ym mis Mehefin 2009 i ddarparu addysg ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n profi anawsterau cymdeithasol, emosiynol a/neu ymddygiad, y rheiny sydd wedi cael eu gwahardd yn barhaol a'r rheiny sy'n aros am symudiad wedi'i reoli, neu'r rheiny y mae eu gorbryder neu anghenion meddygol yn eu hatal rhag mynychu'r ysgol.
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion i benodi cynorthwyydd addysgu L3 deinamig sy'n llawn ysbrydoliaeth. Rhaid bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gydnerth, yn greadigol ac yn hyblyg, gydag awydd i ddod yn aelod allweddol o dîm yr ysgol. Bydd y rôl yn golygu gweithio o dan arweiniad y staff addysgu ac aelodau o Dîm Uwch-arweinwyr yr Ysgol er mwyn cefnogi'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm yn CA3 a CA4.
Byddwch yn gweithio o dan arweiniad, i roi cymorth i fynd i'r afael ag anghenion myfyrwyr y mae angen cymorth penodol arnynt i oresgyn rhwystrau at ddysgu. Byddwch yn cefnogi unigolion a grwpiau o fyfyrwyr i alluogi mynediad at ddysgu a chynorthwyo'r athro i reoli myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Weithiau byddwch yn goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb byrdymor yr athro. Gall gwaith allgymorth, dod i gyswllt ag ysgol brif ffrwd ac ymweld â hi, hefyd fod yn rhan o'r rôl hon
Bydd gennych NVQ Lefel 3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster cywerth. Mae amynedd, dealltwriaeth, agwedd ofalgar a'r gallu i roi cymorth a meithrin cydberthnasoedd cadarnhaol, yn hanfodol yn y rôl hon.
Byddwch yn chwaraewr tîm sy'n gallu trefnu a chynllunio eich amser eich hun gyda symbyliad. Os ydych chi'n cael eich ysgogi gan y ffordd y mae plant yn dysgu ac yn gallu ysbrydoli ein plant, yna edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Gan fod hon yn swydd ar gyfer y tymor ysgol yn unig, rhaid cymryd gwyliau pan fydd yr ysgol ar gau. Bydd y broses benodi yn cynnwys cyfweliad gydag aelodau o dîm arwain yr ysgol a detholiad o Aelodau'r Pwyllgor Rheoli.
Os oes gennych y brwdfrydedd a'r awydd i weithio mewn amgylchedd blaengar ac arloesol, byddai Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen yn croesawu eich cais. Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth, Sarah Pugh neu'r rheolwr Cynhwysiant, Viv Hunt ar 01495 742859.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed a'i hyrwyddo. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Dyddiad Cau: Dydd Sul 13 Gorffennaf 2025
Tynnu'r rhestr fer: Dydd Llun 14 Gorffennaf 2025
Cyfweliadau: Dydd Iau 17 Gorffennaf 2025
Wrth wneud cais, gofynnwn yn garedig i chi ddefnyddio'r adran Datganiad Ategol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf ar gyfer y swydd.