MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Glan y Môr, Pwllheli,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £20,938 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £20,938 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
YSGOLION UWCHRADD
Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 507 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 01 Medi, 2025
Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 3 Parhaol
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.
Mae hwn yn gyfle da i unigolyn gael profiad o weithio mewn amgylchedd ysgol uwchradd.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig a gweithgar i gyfrannu at waith yr ysgol. Prif bwrpas y swydd yw arolygu dosbarthiadau yn ystod absenoldeb athrawon am gyfnodau byr. Nid yw hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am addysgu.
Oriau gwaith: 33 awr yr wythnos
(Bydd yn ofynnol i chi weithio 39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant,
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (£19,644 - £20,938 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mr Guto Wyn.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mr Robin Llywelyn Roberts, Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Mor, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU (Rhif ffôn: 01758 701244) ; e-bost: sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 12:00 Y.P, DDYDD LLUN, 07 Gorffennaf, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
-
Swydd Ddisgrifiad
Swydd ddisgrifiad: Uwch Gymhorthydd Dysgu (Lefel 3)
Rheolwr llinell:
Materion dydd-i-ddydd: Y Rheolwr Busnes
Materion cwricwlaidd/bugeiliol: Yr Uwch Dîm Arwain
Oriau gweithio:
30 awr yr wythnos dros gyfanswm o 195 diwrnod y flwyddyn.
Graddfa cyflog:
Pwyntiau GS4 ar raddfa NJC
Pwrpas y swydd:
Prif bwrpas y swydd yw arolygu dosbarthiadau yn ystod absenoldeb athrawon am gyfnodau byr. Nid yw hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am addysgu.
Pan na fydd angen arolygu dosbarthiadau fe fydd yr Uwch-gymhorthydd yn ymgymryd â dyletswyddau Cymhorthydd Dosbarth ac oherwydd hynny y mae'r swydd-ddisgrifiad honno yn berthnasol i'r swydd hon hefyd.
Dyletswyddau Penodol:
(Gweler hefyd y rhestr o ddyletswyddau Cymhorthydd Dosbarth.)
Pwrpas y swydd:
Bydd Cymhorthydd Dosbarth yn meithrin disgyblion i gymryd rhan ym mhrosesau cymdeithasol ac academaidd yr ysgol, gan alluogi disgyblion i ddod yn ddysgwyr mwy annibynnol a'u cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial. Bydd angen bod yn gydymdeimladwy ac yn amyneddgar ond hefyd yn cadw'r ddisgyblaeth angenrheidiol.
Dyletswyddau:
Cefnogaeth i ddisgyblion
- egluro pwyntiau ac ailadrodd cyfarwyddiadau'r athrawon
- ysgogi ac annog
- cynorthwyo gyda gwendidau e.e. darllen, ymddygiad, llawysgrifen, sillafu
- helpu i ganolbwyntio - ymyrryd pan nad ydynt yn gallu parhau a'u gwaith
- addasu adnoddau i'w cynorthwyo mewn trafodaethau gyda'r athrawon
- ysgrifennu dros y disgybl (pan fo angen)
- arolygu gwaith ymarferol
- cynorthwyo disgyblion i ddal i fyny â gwaith y maent wedi ei golli
- cynorthwyo disgyblion i ddysgu sillafu a pharatoi at brofion
- Hyrwyddo ymddygiad da disgyblion a'u tynnu allan o sefyllfaoedd sy'n datblygu'n broblemus.
- Cyfrannu tuag at iechyd a lles y disgyblion
Cefnogaeth i'r athro
athrawon.
cynnydd.
wrth yr athro.
yr ysgol.
Cefnogaeth i'r ysgol
Asesu ac Adrodd
Dyletswyddau Eraill
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi