MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Prif Raddfa + Lwfans Anghenion Arbennig 1
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro gyda Chyfrifoldeb (Canolfan Arbenigol) (Ysgol Cefnllys)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Prif Raddfa + Lwfans Anghenion Arbennig 1
Athro gyda Chyfrifoldeb (Canolfan Arbenigol) (Ysgol Cefnllys)Swydd-ddisgrifiad
Bod yn gyfrifol, o ddydd i ddydd, am Ganolfan dysgwyr ag anghenion ASD sylweddol sy'n gymhleth ac yn barhaus.
Prif Gyfrifoldebau:
1. Gwneud holl ddyletswyddau athro dosbarth fel y nodir yn adrannau perthnasol y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd).
2. Bod yn gyfrifol am waith y Ganolfan o ddydd i ddydd dan reolaeth y pennaeth a'r swyddog arwain proffesiynol a ddarperir gan yr Ysgol Arbennig leol, yn unol â chyfarwyddyd yr Awdurdod.
3. Goruchwylio a chyfeirio gwaith Cynorthwyydd Dysgu'r Ganolfan Arbenigol a staff eraill sy'n cael eu secondio i'r Ganolfan o bryd i'w gilydd.
4. Cynorthwyo gyda hyfforddi a datblygu staff er budd yr unigolyn a'r gwasanaeth.
5. Cynorthwyo wrth gefnogi'r pennaeth o ran materion rheoli perfformiad, mewn perthynas â'r ganolfan.
6. Rheoli arolygon blynyddol ac arolygon ar ddatganiadau disgyblion a leolir o fewn y ganolfan, gan gynnwys paratoi'r gwaith papur priodol.
7. Gwneud dyletswyddau eraill i'r ysgol gyfan o fewn yr amser a bennir er budd yr ysgol.
8. Gwneud dyletswyddau eraill o'r fath, fel sy'n briodol i'r swydd, fel y gellir ei
ddisgwyl yn rhesymol.
9. Cysylltu ag asiantaethau allanol, rhieni a gofalwyr, fel sy'n briodol.
Mae'r swydd yn gofyn am Uwch Ddatgeliad DBS