MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Glan y Môr, Pwllheli,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 507 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Medi 1af, 2025
SWYDDOG BUGEILIOL A CHYNHWYSIAD (PARHAOL)
Cytundeb parhaol.
Oriau gwaith: 33 awr yr wythnos.
40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio wythnos yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i berson brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (sef £22,018 - £23,885) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mr Guto Wyn.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mr Robin Llywelyn Roberts, Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Mor, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU (Rhif ffôn: 01758 701244) ; e-bost: sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN 30 O FEHEFIN, 2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
-
Swydd Ddisgrifiad
Swydd ddisgrifiad: Swyddog Bugeiliol a Chynhwysiad
Rheolwr llinell:
Pennaeth drwy aelodau o'r Uwch Dim Arwain / Penaethiaid Blwyddyn
Oriau gweithio:
33 awr yr wythnos dros gyfanswm o 195 diwrnod y flwyddyn.
Graddfa gyflog:
Pwyntiau S1
Pwrpas y swydd:
Prif bwrpas y swydd ydy cefnogi, arfogi ac annog disgyblion i ymroi i waith a bywyd bob dydd yn yr ysgol gan hyrwyddo a datblygu dysgwyr uchelgeisiol, iach a hyderus. Bydd yn golygu gweithio'n rhagweithiol gyda'r disgyblion ac hefyd yn ymateb i sefyllfaoedd a phroblemau dydd i ddydd gan roi cefnogaeth i ddisgyblion ymdopi a datrys unrhyw broblemau neu sefyllfaoedd.
Bydd hyn yn golygu meithrin perthynas bositif gyda disgyblion a'u rhieni, ac annog a chefnogi y disgyblion i ymroi i waith a bywyd yr ysgol. Mae'r Swyddog Bugeiliol a Chynhwysiad yn ategu gwaith athrawon ac asiantaethau eraill.
PRIF GYFRIFOLDEBAU
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi