MANYLION
- Lleoliad: Aberystwyth,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 25,584 - 26,835 *
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: 25,584 - 26,835 *
Ynglŷn â'r rôlSylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.
Rydym yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3, fydd yn ymuno â thîm brwdfrydig ac ymroddedig sy'n gweithio gyda myfyrwyr sydd â chefnogaeth gan yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a chynhwysiant ym Mhenglais. Bydd prif ffocws eich gwaith yn cynnwys cefnogi myfyrwyr yn y ddarpariaeth Sgiliau Bywyd yn yr ysgol, cefnogi cyflwyno cwricwlwm pwrpasol, yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol, yn ôl anghenion y myfyrwyr; cefnogi ymddygiad ac anghenion emosiynol a chymdeithasol disgyblion, a gweithio'n hyblyg gydag eraill yn yr adran ADY a Chynhwysiant.
Mae dwy swydd ar gael: un yn barhaol, a'r llall yn gontract tymor penodol am un flwyddyn.
Bydd yr ymgeisydd cywir yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur. Bydd gofyn i chi ddefnyddio eich menter eich hun i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad i'r cwricwlwm a'u bod yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu. Mae hon yn rôl a fyddai'n addas i unigolyn uchelgeisiol sydd â diddordeb gwirioneddol mewn cefnogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial.
Mae gan Ysgol Penglais lawer i'w gynnig:
- Ysgol sydd yn seiliedig ar waith ymchwil gyda pherthnasau da rhwng staff a disgyblion;
- Ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol staff er mwyn cyrraedd rhagoriaeth;
- Agos i dref Prifysgol bywiog Aberystwyth;
- Wedi ei leoli ar arfordir bendigedig bae Ceredigion, ardal o hyfrydwch naturiol.
Pecyn Gwybodaeth
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i'r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost hcl@penglais.org.uk
Mae Ysgol Penglais yn ymrwymedig i ddiogelu ac annog budd a lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus, ac yn disgwyl i holl staff a gwirfoddolwyr rannu yr ymrwymiad hwn.
Bydd raid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgeisio am DBS a'r archwiliadau eraill sydd yn addas ar gyfer y swydd.
Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnaublaenorolo reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy