MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberystwyth,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 34,314 - 36,124 *
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 34,314 - 36,124 *
Ynglŷn â'r rôlSylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.
Rydym yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch i ymuno â Chyfadran Cynhwysiant ac adran ADY brwdfrydig ac ymroddedig. Bydd y swydd newydd hon yn amrywio yn dibynnu ar anghenion y myfyrwyr, yn enwedig cefnogi myfyrwyr ag anghenion ymddygiadol, cymdeithasol ac emosiynol trwy ymyrraeth a chyflwyno'r cwricwlwm. Byddwch yn gweithio o fewn y gyfadran Cynhwysiant ar ac oddi ar y safle, ac yn cefnogi myfyrwyr yn unigol ac mewn grwpiau bach fel rhan o gwricwlwm unigol. Byddwch yn gweithio'n hyblyg gyda staff eraill ar draws yr adran ADY, gan sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu diwallu. Mae'r swydd hon yn llawn amser 37 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig.
Bydd yr ymgeisydd cywir yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur ac weithiau heriol. Bydd gofyn i chi ddefnyddio eich menter eich hun i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad i'r cwricwlwm, yn gallu datblygu wrth reoli eu hymddygiad a'u hemosiynau, a'u bod yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu. Mae hon yn rôl a fyddai'n addas i unigolyn uchelgeisiol sydd â diddordeb gwirioneddol mewn cefnogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial.
Mae gan Ysgol Penglais lawer i'w gynnig:
- ysgol sydd yn seiliedig ar waith ymchwil gyda pherthnasau da rhwng staff a disgyblion
- ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol staff er mwyn cyrraedd rhagoriaeth
- agos i dref Prifysgol bywiog Aberystwyth
- wedi ei leoli ar arfordir bendigedig bae Ceredigion, ardal o hyfrydwch naturiol
Pecyn Gwybodaeth
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i'r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost hcl@penglais.org.uk
Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnaublaenorolo reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy